Ar ddydd Mercher 30ain o Hydref daeth criw o Fenter Iaith Conwy a swyddogion y cynllun EgNi i’r de i drafod eu prosiect diweddaraf. Aethant i ymweld â Chwm Clydach i arsylwi sut mae’r datblygiad o brosiectau egni gwyrdd wedi bod mor effeithiol yn yr ardal. Cawsant daith o amgylch y Cwm a chroesawiad cynnes gan griw’r Ganolfan Gymunedol sydd wedi datblygu’r cynllun. Esboniwyd sut mae’r ‘Micro Hydro Turbine’ (Tyrbin Hydro Meicro) yn gweithio a chafwyd arddangosiad cyflym. Aeth y criw ymlaen i Ganolfan Soar ym Merthyr i drafod sut mae datblygu prosiectau egni gwyrdd yn ffordd o ennill incwm gwerthfawr yn ogystal â chynnig swyddi i’r trigolion lleol. Edrychwn ymlaen at glywed mwy am y prosiect EGNI Hydro.

clydach