Dydd Mercher, 23 Hydref bydd Bethan Sian Hale ac Alwen Messamah o Ysgol y Creuddyn ac Erin Gwyn Rossington o Ysgol Dyffryn Conwy yn pacio’u bagiau ac yn ymuno gydag 18 o bobl ifanc o ogledd Cymru ar daith fythgofiadwy i  Batagonia gydag Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru.

Byddant ym Mhatagonia am 10 diwrnod, ac yn ogystal â chael profiad o’r diwylliant Archentaidd-Gymreig unigryw, mi fyddant yn gwneud gwaith gwirfoddol megis cynorthwyo yn yr ysgol feithrin, cynnal sesiynau adeiladu tîm yng Ngholeg Camwy ac ymweld â’r henoed sydd yn siarad Cymraeg.

I gael mynd ar y daith, roedd rhaid iddynt godi £2,250 yr un, ac mae’r tair wedi llwyddo i gyrraedd y targed.  Ymysg y gweithgareddau codi arian a drefnwyd roedd bore coffi, ffair grefftau yn y neuadd bentref a chyngerdd yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

Yn ôl Bethan, “Un o’r rhesymau pam oeddwn i eisiau mynd ar y daith i Batagonia gyda’r Urdd oedd am fod gen i deulu yn nhref Gaiman a Threlew.  Mi wnaethant symud i Batagonia tua 10 mlynedd yn ôl, ac rwyf yn gobeithio y caf gyfle i’w cyfarfod tra mod i allan yno.”

Ychwanegodd Erin, “Rwyf yn edrych ymlaen i  gyfarfod y pobl ifanc allan yna sydd yn siarad Cymraeg fel ni.  Mae’n anodd credu fod yr iaith yn fyw ochr arall y byd, ac rwy’n credu y bydd yn brofiad gwych.”

Bydd tri aelod o staff ar daith gyda’r bobl ifanc – Eryl Williams, Swyddog Datblygu’r Urdd ym Môn, Branwen Haf, Cydlynydd Ail-iaith Cenedlaethol yr Urdd a Ceri Phillips o Fenter Iaith Conwy.

Dywedodd Eryl Williams, arweinydd y daith, “Mae hwn yn gyfle gwych i griw o bobl ifanc gael profiad unigryw a chofiadwy.  Mae’n wych ein bod yn cydweithio gyda’r Mentrau Iaith i drefnu’r daith gan bod eu cyfraniad a’u cyngor hwy yn hynod o werthfawr.”

Ychwanegodd Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy, “Mae’r daith flynyddol hon i Batagonia yn gyfle gwych i bobl ifanc weld pa mor werthfawr yw’r iaith Gymraeg ac yn rhoi blas iddynt o ddiwylliant unigryw Patagonia.  Yn dilyn y daith pan fyddant yn ôl adref yng Nghymru, rydym yn gweld fod y bobl ifanc lawer mwy parod i ddefnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol, sydd yn wych.”

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gydag Angharad Prys ar 01248 672 107 / angharadprys@urdd.org. ydrefHy