Mae’r ŵyl Gymraeg sy’n cael ei threfnu gan Fenter Caerdydd wedi dod i’r brig yng nghategori Gŵyl Orau Caerdydd yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd yn ddiweddar.

Yn yr un categori a Gŵyl Eradication, The Future Is Female, Gŵyl Hub a Gŵyl Sŵn – Tafwyl ddaeth i’r brig diolch i bleidlais gyhoeddus.

Ar eu cyfrif Twitter, diolchodd drefnwyr Tafwyl i bawb sydd wedi cefnogi’r ŵyl am bleidleisio a’u bod yn hapus iawn.

Mae sawl Menter Iaith yn trefnu gwyliau ym mhob pen o’r wlad dros yr haf gyda rhai eisoes wedi cyhoeddi eu hartistiaid ar gyfer 2018. Ewch i’n cyfrif Facebook i weld beth sydd ymlaen.

 

DZe_IKsXcAAZGzd