Yn dilyn llwyddiant Ras yr Iaith yn 2014 mae trefniadau nawr mewn lle i gynnal y Ras unwaith eto flwyddyn nesaf.

Cyfarfu Pwyllgor Ras yr Iaith ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw gellir datgan mai bwriad y trefnwyr yw cynnal y Ras ar y 6,7,8 o Orffennaf, 2016. Bydd y Ras yn teithio drwy ganol trefi ar hyd y gorllewin gan ddechrau ym Mangor ar y 6ed o Orffennaf a gorffen yn Llandeilo ar nos Wener yr 8fed o Orffennaf.

Mae sawl mudiad Cymraeg wedi dod at ei gilydd i weithio dros y nod uchelgeisiol hwn: Mentrau Iaith Conwy, Maldwyn, Cered (Ceredigion), Sir Benfro, Gorllewin Sir Gâr, a Bro Dinefwr. Mae Mentrau Iaith Cymru yn ganolog, yr egin fenter iaith ym Mangor a grwpiau lleol yng Ngwynedd hefyd yn rhan o’r trefniadau.

Mae Ras yr Iaith wedi ei seilio ar rasus iaith eraill yn Llydaw, Iwerddon a Gwlad y Basg. Nid ras gystadleuol yw hi ond ras hwyl gyfnewid lle caiff baton yr iaith ei phasio o un dref i’r llall. Dim ond yng nghanol y trefi bydd y rhedwyr yn rhedeg. Bydd busnesau, clybiau, mudiadau, ysgolion neu deuluoedd yn talu £50 i noddi 1km ac am hynny gall unrhyw nifer o bobl redeg.

Gyda’r elw a godir o’r nawdd, mae’r Ras yn dosbarthu grantiau i brosiectau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. Yn dilyn llwyddiant Ras yr Iaith 2014 dosbarthwyd gwerth £4,000 o grantiau i grwpiau a mentrau o fewn ardal y Ras. Roedd rhain yn amrywio o wyliau cerddorol fel Gŵyl Nôl a Mlaen a Tregaroc, i wersi Ioga i Bawb  a Gŵyl ddrama Gymraeg.

Dywed, Emily Cole, Cydlynydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru:

“Mae Mentrau Iaith Cymru yn awyddus iawn i fod yn rhan o Ras yr Iaith, yn enwedig yn dilyn llwyddiant ysgubol y ras yn 2014. Mae gan y Mentrau rwydwaith o grwpiau ac arbenigedd mewn cysylltu gyda phobl o bob cefndir ac rydym yn ystyried Ras yr Iaith yn gyfle euraid i hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg.”

Ychwanega Siôn Jobbins, Cadeirydd Ras yr Iaith:

“Mae cynnal Ras yr Iaith yn her uchelgeisiol – ond wedyn, mae adfer yr iaith Gymraeg hefyd yn her fawr. Mae cynnal y Ras yn arwydd o ewyllys, brwdfrydedd a phenderfyniad pobl Cymru i weld ffyniant yr iaith Gymraeg ac i wneud hynny mewn ffordd bositif ac iachus.

“Rwy’n hynod, hynod falch bod sawl Menter Iaith newydd wedi ymuno â mi. Mae mor dda gallu dweud bod yr ail Ras am fod yn hwy ac yn fwy na’r un gyntaf.”