Mae Prosiect POSSIB ar ganol ei drydydd blwyddyn allan o bedair, a’n gobaith yw cael estyniad o dair blynedd arall fel bod plant, pobl ifanc, a’u teuluoedd yn ardaloedd Gogledd Merthyr Tudful yn gallu elwa o’r gweithgaredd celfyddydol dwyieithog hwn.

Wrth alluogi trigolion yr ardal i fynegi eu teimladau a’u barn am effaith gwasanaethau cyhoeddus ar iechyd a lles, disgwylir i’r prosiect hwn ddylanwadu ar newid mewn polisi a gwasanaethau lleol.

Gydag arian y Loteri Fawr y tu cefn iddo bu’r prosiect yn cydweithio mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf – Clwstwr Gogledd Merthyr Tudful, Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â National Theatre Wales ac artistiaid di-ri yn y celfyddydau.

Prosiectau

Bu Jên Angharad, Rheolwr a chynhyrchydd Prosiect POSSIB, yn gweithio yn yr ysgol Gymraeg ac ysgolion di-Gymraeg y gymuned ar sawl is-brosiect llewyrchus fel Straeon – prosiect llyfr anturiaethau dwyieithog a grëwyd gan 166 o blant yn yr ardal.

Mae rhai o’r is- brosiectau yn y Gymraeg yn unig ond mae eraill yn ddwyieithog a gwelir gyda’r rhain bod cyfleoedd i integreiddio’r Gymraeg i weithgareddau di-Gymraeg gan godi proffil yr iaith a chwalu rhagfarn yn ei herbyn a’r rhwystrau ieithyddol cyffredin a wynebir.

Mae Dawnsio’r Lingo yn is-brosiect newydd diddorol sy’n archwilio seiniau ieithyddol yr iaith Gymraeg trwy symud a dawns. Y nod yw dod â’r symudiadau at ei gilydd i greu darn coreograffeg. Bydd Dawnsio’r Lingo yn defnyddio’r corff fel cyfrwng dehongli symudiadau i hyrwyddo gallu a hyder y cyfranogwyr i gynhyrchu synau’r Gymraeg a’i geirfa mewn dawns artistig, wreiddiol.

Mae’n gysyniad diddorol, ond diben Dawnsio’r Lingo yw dangos sut y gall symud a dawns gefnogi datblygiad Cymraeg Ail-iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Bwriedir perfformio Dawnsio’r Lingo yn Addewid Ysgolion Big Dance, ym Merthyr Tudful, ddydd Gwener 20 Mai 2016.

Cafwyd cydweithio brwd gydag ardaloedd eraill Cymunedau yn Gyntaf ar amrywiol brosiectau yn cynnwys dawns, theatr a Gŵyl Bedroc dros gyfnod o 7 mlynedd.

Dywed Lisbeth McLean, Prif Swyddog, Menter Iaith Merthyr Tudful.

“Mae’r berthynas agos hwn gyda Chymunedau yn Gyntaf a’r ysgolion lleol wedi gwneud y gwaith yn bosibl gan atgyfnerthu’r ethos o osod yr iaith mewn cyd-destun cymunedol.”

“Ein hethos yw: ‘Sut gallwn gydweithio i integreiddio’r Gymraeg a beth gall y Gymraeg i gynnig i chi?’ yn hytrach na ‘beth gall Cymunedau yn Gyntaf ei gynnig i ni?’

“Byddai estyn y prosiect am dair blynedd arall yn fodd o estyn y gweithgaredd ledled y Sir i gyd gan leoli’r Gymraeg yn y gymuned er budd ei hiechyd a’i lles.”

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Jên Angharad, Prosiect POSSIB: Lleisiau Mewn Celf, neu Menter Iaith Merthyr Tudful.