Newyddion

DATGANIAD I’R WASG – Gŵyl Tawe 2024

DATGANIAD I’R WASG – Gŵyl Tawe 2024

Mae’r enwau cyntaf wedi eu cyhoeddi ar gyfer Gŵyl Tawe 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar ddydd Sadwrn yr 8fed o Fehefin. Yn dilyn blwyddyn gyntaf llwyddiannus yn ei chartref newydd yn 2023, bydd yr ŵyl eto yn gweld perfformiadau gan lu o artistiaid...

Gŵyl Rhuthun

Mae Gŵyl Rhuthun yn dathlu 30 mlynedd eleni! Felly dewch i Ruthun i gael parti go iawn! Bydd gweithgareddau yn ystod yr wythnos o 22 Mehefin ymlaen a bydd 'Top Dre' ar agor o 29 i 30 Mehefin. 2023 Mae'r digwyddiad enwog ‘Top Dre’ yn cael ei fwynhau gan filoedd bob...

Ogi Ogi Ogwr

Bydd gŵyl Gymraeg Ogi Ogi Ogwr yn ôl ar 29 Mehefin eleni. Mwy o wybodaeth i ddod cyn bo hir! 2023 Mae Menter Bro Ogwr yn falch o gyhoeddi bod dros 600 o bobl wedi mwynhau Gŵyl Ogi Ogi Ogwr ym Mharc Gwledig Bryngarw ar y 1af o Orffennaf 2023! Mae’n bleser cael...

Magi Ann

Pwy yw Magi Ann? Llyfrau wedi eu hysgrifennu gan Mena Evans gyda’r nod o gefnogi plant a’u teuluoedd i ddysgu darllen yn Gymraeg, a Magi Ann yw'r prif gymeriad. Mae'r llyfrau yn parhau i fod yn boblogaidd ddegawdau yn ddiweddarach, gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam...

Gŵyl Maldwyn

Gŵyl Maldwyn

Yn draddodiadol mae Gŵyl Maldwyn wedi bod yn cael ei chynnal yn nhafarn y Cann Office Llangadfan ym Mhowys, a hynny ers 2004 yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Meifod 2003. Mae’r ŵyl yn digwydd eto yn 2022 ar ôl cwpl o flynyddoedd o saib.

Parti Ponty

Parti Ponty

Hwrê! Roedd Parti Ponty yn ôl unwaith eto eleni ar Fai 12fed a 13eg yn bownsio â digwyddiadau a cherddoriaeth yn y Rhondda. Yr un ŵyl Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf ac mae croeso cynnes i bawb bob blwyddyn - boed yn siaradwyr Cymraeg neu ddim. Roedd parti yn y pwll, y...

Ffiliffest

Ffiliffest

Roedd Ffiliffest ymlaen eto ar y 10fed o Fehefin 2023. Wedi'i threfnu gan Fenter Iaith Caerffili roedd adloniant ac arlwy i bawb unwaith eto - o'r rhai ifanc iawn i'r rhai sy' wedi cadw'n ifanc. mentercaerffili.cymru/cy/ffilifest-cy Mae'r ffest yn ôl ar 8 Mehefin...

Tafwyl

Tafwyl

Gŵyl sydd BOB AMSER yn denu miloedd o bobl ydy Tafwyl yn ein prif ddinas, Caerdydd. Symudodd yr ŵyl boblogaidd hon i Barc Bute yn 2023 gyda'r band BWNCATH yn gorffen y nos Sadwrn ar 15fed o Orffennaf - am ddim! Ac mae Tafwyl yn ôl ar 13 a 14 Gorffennaf 2024! Rhai o...

Gŵyl Canol Dre

Gŵyl Canol Dre

Dyddiad i'r dyddiadur - bydd Gŵyl Canol Dre yn ôl ar 6 Gorffennaf eleni. Dyma flas ar yr adloniant llynedd. Fel hyn mae'r gynulleidfa'n mwynhau'r ŵyl: Mae'r fideos yma'n dweud y cyfan: Eden yn canu (diolch i Heledd ap Gwynfor am y fideo) Yws Gwynedd a'r band yn canu...