O ddechrau’r flwyddyn ymlaen, rydym yn eu gweld yn codi eu pennau ar ochrau lonydd ac mewn parciau: blodau cennin Pedr. Y dail cul yn gwthio drwy’r gwair yn fwndel o fysedd gwyrddlwyd, a rhai wythnosau’n ddiweddarach, y blagur yn tewychu ac yna’n agor y blodau melyn...
Newyddion
Beth sy’ ‘mlaen yn Ffiliffest ’21?!
Mae gŵyl flynyddol Ffiliffest, sy'n cael ei chynnal gan Menter Caerffili, ymlaen ddydd Sadwrn, Mehefin 19. Eleni mae’r ŵyl yn ddigidol, sy’n rhoi blas o’r hyn byddai wedi ymddangos o fewn waliau Castell Caerffili; cerddoriaeth fyw, celf a chrefft, stondinwyr lleol,...
Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith yn genedlaethol am y tro cyntaf!
Yr wythnos ddiwethaf (07-11/06/2021) fe wnaeth disgyblion ysgolion cynradd dros Gymru gyfan gymryd rhan yn rownd derfynol cenedlaethol Cwis Dim Clem am y tro cyntaf erioed. Mae Cwis Dim Clem yn gwis Cymraeg hwyliog i blant blynyddoedd 6 ysgolion cynradd Cymru a...
Ysgol bêl-droed Cymraeg gyda’r Elyrch
Ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Abertawe, mae Menter Iaith Abertawe wedi trefnu Ysgol Bêl-droed i blant rhwng 8 a 11 oed. Ym mis Mehefin a Gorffennaf 2021 bydd cyfle gwych i blant gymdeithasu yn y Gymraeg a chwrdd â ffrindiau newydd o ysgolion...
Cynnal Gŵyl Gwenllian 2021
Am yr ail flwyddyn yn olynol cynhelir Gŵyl Gwenllian ym Methesda a’r cyffiniau gyda digwyddiadau amrywiol rhwng dydd Iau 10feda dydd Sul 13eg o Fehefin 2021. Yn sgil y llacio ar reolau cymdeithasol, bydd sawl gweithgaredd wyneb yn wyneb. Yn eu plith bydd gweithdy celf...
Ar Droed
Cyfle i ddysgwyr deithio ‘Ar Droed’ gyda Iolo Williams Dros y misoedd nesaf, bydd y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams yn arwain teithiau natur i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg, gan roi cyfle i ddysgwyr ddod i adnabod siaradwyr rhugl yn eu hardaloedd nhw...
Gwlad y Chants: Pleidleisiwch am eich hoff ‘chant’ i gefnogi Cymru
Mae’r Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn galw ar gefnogwyr pêl-droed Cymru i bleidleisio ar gyfer chant newydd i gefnogi Cymru yn EURO2020. Bydd modd i bawb ddewis eu ffefryn o 9 ‘chant’ Cymraeg a dwyieithog yng nghystadleuaeth Gwlad y Chants rhwng Mehefin...
Dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr dros Gymru
Mae gwirfoddolwyr yn rhan greiddiol o waith llawer iawn o elusennau a mudiadau eraill. Maen nhw’n bresenoldeb gwerthfawr mewn nifer o gymunedau, ac maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mewn mannau mor amrywiol â chlybiau chwaraeon, llyfrgelloedd, ysgolion ysbytai, yr Urdd,...
Menter Iaith Conwy: syniadau atgyweirio hen neuadd
Mae Menter Iaith Conwy yn chwilio am syniadau ar sut i ddefnyddio hen neuadd yn nho eu pencadlys ar sgwâr Llanrwst. https://youtu.be/1h7q_MbnsHk Eisoes maent wedi addasu dau lawr cyntaf adeilad hen fanc HSBC yn y dref yn swyddfeydd i Menter Iaith Conwy, Cyfieithu...
Gwlad y Chants: Chwilio am ‘chants’ pêl-droed newydd i Gymru
Mae’r Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal cystadleuaeth arbennig i ddarganfod 'chants’ pêl-droed newydd i gefnogi Cymru yn EURO2020. Maent yn galw ar bawb o bob oed dros Gymru i fod yn greadigol a chreu ‘chant’ dwyieithog newydd i roi hwb i'n tîm...
Gwylio Gŵyl Fach y Fro Eto a Chyhoeddi Artistiaid Tafwyl
Wnes di wylio fideos Gŵyl Fach y Fro? Cer draw i wefan AM i wylio'r holl gynnwys ETO! Cyhoeddi Artistiaid Tafwyl Tafwyl yw gŵyl Gymraeg Caerdydd, dathliad o gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg yn ein Prifddinas wedi ei drefnu gan Fenter Caerdydd. Ymhlith yr...