Heddiw, rydym yn lansio Ymgyrch Y Bêl – Pasio’r Bale Dros Gymru gyda fideo arbennig yn dangos Is-reolwr Cymru, Osian Roberts yn llofnodi ei gefnogaeth i dîm Cymru ac yn galw ar gefnogwyr ledled Cymru i gymryd rhan.

Bydd 23 pêl, un ym mhob Menter Iaith yn crwydro Cymru dros yr wythnosau nesaf a bydd negeseuon o gefnogaeth ar ffurf fideo a lluniau yn cael eu rhannu ar blatfformau cyhoeddus y Mentrau Iaith.

Yn ogystal, byddwn yn galw ar gefnogwyr i basio’r ‘Bale’ ymlaen i’r person nesaf, a hyn yn symbolaidd o bwysigrwydd trosglwyddo’r Gymraeg i eraill, er mwyn sicrhau ei dyfodol.

Un sy’n gyffrous am yr ymgyrch, ac sydd wedi chwarae rôl flaenllaw wrth hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg dros y blynyddoedd yw’r cyn-chwaraewr a’r gôl-geidwad rhyngwladol, Dai Davies.

“Mae gweld Cymru, am y tro cyntaf ers cyfnod hir iawn, mewn pencampwriaeth ryngwladol yn rhywbeth i bob un ohonom ddathlu.”

“Fel chwaraewr pêl-droed, a fel sylwebydd, mae’r gallu i siarad Cymraeg wedi bod yn fanteisiol iawn i mi yn ystod fy ngyrfa.”

“Rwyf wrth fy modd, yn gallu cefnogi ymgyrch y Mentrau Iaith i gasglu cefnogaeth i’r tîm, a hoffwn alw ar bawb i ymuno yn y dathlu, cefnogi Cymru a chefnogi’r Gymraeg.”

Beth allwch chi ei wneud i ddangos eich cefnogaeth?

  1. Cysylltwch â’ch Menter Iaith leol i gael cyfle i lofnodi’r bêl.
  2. Rhannwch eich egeseuon o gefnogaeth i’r sgwad, gan ddefnyddio’r hashnodau #CmonCymru a #DiolchCymru.
  3. Uwchlwythwch fideo neu glip sain ohonoch yn ‘Pasio’r ‘Bale’ dros Gymru gan ddefnyddio @MentrauIaith yn eich neges ar Twitter neu dagio tudalen Mentrau Iaith Cymru ar Facebook ac fe wnawn ein gorau i rannu’ch negeseuon.

Cadwch lygaid barcud ar gyfrif Facebook a Twitter Mentrau Iaith Cymru dros yr wythnosau nesaf, lle byddwn yn rhannu’ch negeseuon chi o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

C’mon Cymru