Ddydd Mercher, 13eg o Fehefin yn Fferyllfa Morrisons Bangor cafodd pecyn hybu’r Gymraeg ar gyfer fferyllfeydd Gwynedd yn cael ei lawnsio’n swyddogol. Ffrwyth llafur cydweithio rhwng Hunaniaith (Menter iaith Gwynedd), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Menter Iaith Bangor yw’r pecyn, sy’n adlewyrchu cynlluniau i ganolbwyntio ar y sector gofal iechyd cychwynnol o ran buddsoddiad mwy hirdymor.

Y bwriad gyda’r pecyn hybu’r Gymraeg yw sbarduno a chynorthwyo fferyllwyr a staff fferyllfeydd i ddatblygu gwasanaeth wyneb yn wyneb (a gweledol) Cymraeg ar gyfer y cyhoedd. Mae hefyd, trwy bosteri fydd yn cael eu harddangos yn y fferyllfeydd, yn hysbysu ac atgoffa’r cyhoedd bod pob croeso iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg. Mae achos busnes tros wneud hyn yng Ngwynedd – y sir sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg a mwyafrif helaeth o’r cymunedau hynny lle mae dros 70% o’r trigolion yn gallu’r Gymraeg. Mae hefyd yn arwyddocaol oherwydd y twf a ragwelir ymhlith nifer/ yn y ganran o pobl hŷn lle mae bron dau draean yn siaradwyr Cymraeg, gyda chyfran fawr ohonynt yn fwy cyffyrddus a chartrefol yn eu mamiaith.

Bydd dosbarthu’r pecyn hybu’r Gymraeg yn arf ymarferol i hwyluso gweithredu Y Cynnig Rhagweithiol (sy’n golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg yn rhagweithiol i gleifion heb i’r cwsmer neu’r claf orfod gofyn amdano). Mae’n rhan annatod o Fframwaith Llywodraeth Cymru Mwy na Geiriau.

Yn y lawns dywedodd Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Gareth Roberts,

Fel Cyngor Sir rydym yn croesawu’n fawr y cydweithio rhwng asiantaethau ac ar draws y rhanbarth sydd wedi digwydd er lles y Gymraeg o ran cyhoeddi’r pecyn hwn. O gofio bod rôl gynyddol i’r gwasanaeth fferyllfeydd ymhlith cleifion sydd ar feddyginiaethau hirdymor, mae cyflenwi gwasanaeth yn iaith y claf yn fater o angen sylfaenol.”

Meddai Menna Baines, Cadeirydd Menter Iaith Bangor,

“Calondid mawr i mi yw gweld y datblygiad hwn yn sgil ein prosiect ‘Cymreigio Busnesau Bangor’ dan ofal Dafydd Apolloni a pharodrwydd prif Fferyllydd Morrisons Bangor i gydweithio â’r Fenter i hybu’r Gymraeg yn yr archfarchnad. Mae’n dda iawn gweld fod cwmni mawr fel Morrisons o ddifri ynglŷn â gofal cwsmer i siaradwyr Cymraeg, ac rwy’n mawr obeithio y bydd archfarchnadoedd a fferyllfeydd annibynnol eraill yn gweld gwerth mewn defnyddio’r pecyn.”