Mae’r Mentrau Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi lefel realistig o arian i sicrhau y gall elfennau allweddol o Strategaeth Iaith Gymraeg y Llywodraeth cael ei wireddu.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithredu ledled Cymru, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Mae’r alwad am adnoddau ychwanegol yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar eu gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a ganfu y dylai’r cyfraniad sylweddol a wneir gan y Mentrau barhau ac ehangu, ond nad oes digon o adnoddau gan y Mentrau ar hyn o bryd – ac maent yn rhy fach i allu cyflawni’r canlyniadau pellgyrhaeddol sydd eu hangen i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae Penri Williams, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, yn esbonio pam fod angen y buddsoddiad: “yng Nghymru mae gennym system addysg a phrosiectau niferus sydd i gyd yn cyfrannu at gynhyrchu siaradwyr Cymraeg, ond ar yr un pryd ni ellir peidio â buddsoddi yn y cyfleoedd ac ymyraethau sy’n hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned. Mae’r Mentrau’n darparu gwasanaethau a gweithgareddau mae siaradwyr Cymraeg wir yn mwynhau defnyddio.” Ychwanegodd: “Fel y cyfryw, mae gwaith y Mentrau yn cyfrannu’n dda at ddymuniad y Prif Weinidog i weld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg”.

“Mae’r adroddiad yn cadarnhau’r hyn yr ydym wedi gwybod ers blynyddoedd lawer, er bod gan y Mentrau rôl hanfodol i’w chwarae wrth hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg , nid ydynt wedi cael digon o adnoddau am lawer rhy hir.”

“Rydym yn cydnabod yn llawn ein bod ni’n wynebu hinsawdd economaidd anodd ar hyn o bryd, ond ar yr un pryd mae rhaid inni gydnabod hefyd bod yr iaith Gymraeg yn wynebu heriau difrifol. Mae’n bodoli ochr yn ochr ag un o’r ieithoedd mwyaf dylanwadol yn y byd. Os yw’r Gymraeg yn colli tir fel iaith ein teuluoedd, ein cymunedau a’n pobl ifanc fe fyddai hi’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i’w hadennill yn y dyfodol.”

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar adeg pan fo’r Llywodraeth yn wynebu beirniadaeth nad yw wedi ymateb yn ddigonol i ganlyniadau’r Cyfrifiad a’i digwyddiad ‘Y Gynhadledd Fawr’, lle arweiniodd y Prif Weinidog drafodaeth am ddyfodol yr iaith.

Ychwanegodd Penri Williams: “Byddai ymateb cadarnhaol i’r adroddiad hwn yn rhoi hwb angenrheidiol i’r Mentrau ac felly i’r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’n gyfle i’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i weithredu’n gyflym i ddangos cefnogaeth i’r iaith”.

Mae’r Mentrau yn galw am gyllid o £4.8m gan Llywodraeth Cymru, sydd tua 16c yr wythnos i bob siaradwr Cymraeg. Mae’r Mentrau hefyd yn galw am fuddsoddiad pellach gan eu Hawdurdodau Lleol ar draws Cymru yn y dyfodol agos wrth i’r Safonau Iaith ddod i rym.

“Mae hyn yn wir, yn gynnydd sylweddol”, ychwanegodd Mr Williams, “yn enwedig yn ystod cyfnod o galedi ariannol. Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn dod o ganlyniad i danfuddsoddi sylweddol yn y Mentrau Iaith dros nifer o flynyddoedd. Gyda’r heriau a amlygwyd gan y Cyfrifiad, mae’r amser wedi dod i fuddsoddi “.