Mae ap cwis Cymraeg newydd, Ap Sialens, wedi ei lansio yn ddiweddar o ganlyniad i rwydweithio rhwng Menter Iaith Sir Ddinbych, pymtheg ysgol leol, Cwmni Sbectol Cyf. a Thîm Ymgynghorol Y Gymraeg Sir Ddinbych.

Cafwyd trafodaeth mewn cyfarfod cychwynnol ar ofynion achrediad Arian Siarter Iaith a’r modd o gynyddu defnydd cymdeithasol disgyblion o’r iaith ynghŷd â defnydd o dechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg. Penderfynwyd ar greu Ap Cwis Cymraeg  gyda’r disgyblion yn creu cwestiynau addas ar wahanol bynciau o ddiddordeb. Comisiynwyd Cwmni Sbectol Cyf. i greu yr Ap a gwahoddwyd Menter Iaith Sir Dinbych hefyd i gynorthwyo gyda’r gwaith.  Gwelwyd ffrwyth llafur y  rhai fu’n cynllunio yn cael ei lansio ar ffurf Ap newydd yn ystod y Seremoni Wobrwyo yng Nghastell Rhuthun.

Cynhaliwyd cystadleuaeth i’r disgyblion lunio logo ar gyfer yr Ap a logo Katie Parton o Ysgol Carreg Emlyn oedd yn fuddugol.