Fe fydd y Gweinidog yr Iaith Gymraeg, Alun Davies yn lansio dau ap newydd i blant yn ystod wythnos yr Eisteddfod ym Môn.

Mae’r arth felen Selog wedi bod yn hyrwyddo recordiadau o straeon Cymraeg i blant ers tro, ond bellach mae ap newydd Hoff Lyfrau Selog yn cynnig recordiad o 14 stori i gyd-fynd â llyfrau Alun yr Arth a Rwdlan. Yn ogystal mae ap newydd Canu Selog yn cynnig 14 cân boblogaidd Gymraeg i blant gan amrywio o hwiangerddi glin mam a dad megis ‘Gee Ceffyl Bach’ a ‘Dau Gi Bach’, i ganeuon poblogaidd stadiwm pêl-droed a rygbi, megis ‘Sosban Fach’ a’r anthem genedlaethol. Gellir lawrlwytho’r apiau am ddim ar gyfer ffônau, a thabledi a chyfarpar arall Android neu iPhone.

Dywedodd pennaeth Menter Iaith Môn, Helen Williams, “Datblygwyd Ap Canu Selog mewn ymateb i gais gan rieni o Gaergybi i Menter Iaith Môn. Mae ein grŵp rhiant a phlentyn yn cyfarfod yn Llyfrgell Caergybi yn wythnosol ac wrth ganu hwiangerddi Cymraeg bu i’r rhieni di-Gymraeg weld mantais cael dilyniant er mwyn parhau i ganu adref. Felly ar eu cais hwy, a chyda cefnogaeth arian y llywodraeth ar gyfer y Gymraeg, aethpwyd ati i recordio’r caneuon er mwyn i’r teuluoedd barhau i ddefnyddio’r Gymraeg drwy ganu yn y cartref. Yn ogystal mae yna gyfieithiad i’r Saesneg er mwyn i ddysgwyr gael gwerthfawrogi hynodrwydd a hiwmor ein hwiangerddi Cymraeg.”

Dywedodd Lefi Gruffudd o wasg y Lolfa, “Bûm eisoes yn cydweithio gyda Menter Iaith Môn wrth iddynt recordio rhai o lyfrau ein hawduron ar gyfer stori Gymraeg wythnosol ar MônFM. Mae datblygiad yr ap newydd yma’n gyffrous iawn, gan ei fod yn cynnig cyfle i rieni di-Gymraeg ar draws Cymru i gefnogi eu plant wrth iddynt ddod a llyfrau Cymraeg Rwdlan neu Alun yr Arth i’w darllen o’r ysgol.”

Yn ôl Alun Davies AC, y Gweinidog dros y Gymraeg: “Mae hwn yn esiampl dda o fentrau’n gwrando ac yn ymateb i anghenion lleol, gan greu adnoddau gellir eu defnyddio ar draws Cymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael ymweld â’r Eisteddfod a chael lansio’r ap canu a’r ap llyfrau Selog, ac rwyf yn falch y bydd modd i deuluoedd Cymraeg a di-Gymraeg eu mwynhau.” 

Cynhyrchwyd yr apiau gan Menter Iaith Môn mewn cydweithrediad â Bocsŵn, cwmni Sbectol, y Lolfa, a nawdd gan Lywodraeth Cymru. Mae cyflwyniad lleisiol syml digyfeiliant y caneuon, gan Gwen Elin a Richard Owen, yn adlewyrchu’r gobaith y bydd tadau a theidiau, mamau a neiniau, gofalwyr a gwarchodwyr plant, a chymorthyddion ac athrawon, oll yn cael budd o ddefnyddio’r adnodd agos-atoch yma wrth gyflwyno caneuon Cymraeg i blant neu ddysgwyr.

Mae modd lawrlwytho’r apiau yn ddi-dâl o’r App Store neu Play Store, gweler y linc:

Canu Selog Android, Canu Selog iPhone,

Hoff Lyfrau Selog Android, Hoff Lyfrau Selog iPhone

 Fe fydd yr ap yn cael lansio am 11:30yb ar Ddydd Mercher 9fed o Awst ar Faes yr Eisteddfod.