Cyfnod i feddwl am y plant yw’r Nadolig, a neges Menter Iaith Môn yw’r gobaith bydd teuluoedd yn anrhegu’r Gymraeg i’r plant er mwyn eu mwynhad a’u dyfodol.
Esboniodd Nia Thomas, sy’n arwain Menter Iaith Môn: “Mae cymaint o opsiynau i anrhegu’r Gymraeg, rhai yn hwyliog, eraill yn gymunedol, a rhai yn rhad ac am ddim!
“Yn gyntaf mae cymaint o anrhegion Nadolig Cymraeg sydd am fod yn cynnig oriau o bleser i’r plant. Yn benodol, mae gennym fel Mentrau Iaith apiau i’r plant iau megis ‘Selog’, ‘Magi Ann’ a ‘Bys a Bawd’ i’w lawrlwytho ar ipads newydd. Yna i’r plant mawr, o bob oed, y ffefryn mawr eleni yw ukuleles er mwyn dysgu ar-lein yn y Gymraeg gyda Rich Bocsŵn ar Facebook neu YouTube.
“Yn ail, drwy brynu nwyddau a gwasanaethau’n gan fusnesau’n lleol, mae modd buddsoddi yn y mentrau sy’n cynnal y Gymraeg yn ein cymunedau er mwyn y plant a chenedlaethau’r dyfodol.”
“Ac yn drydydd, rodd amhrisiadwy sy’n rhad ac am ddim ac yn para oes, sef anrhegu’r Gymraeg i blant drwy’r teulu, y cartref, a/neu addysg. Yn y dyfodol byddant yn diolch i chi am y fantais a gawsant i lwyddo mewn gwlad ddwyieithog.”
Mae dewis helaeth o anrhegion Cymraeg, gan gynnwys Seren Swynol i fabis a dewis i bob oed yn y siopau llyfrau a nwyddau Cymraeg lleol, neu syniadau unigryw am roddion drwy chwilio ar-lein ar @YrAwrGymraeg a #SiopaDolig.
Gall busnesau bach neu ganolig sydd am gynnwys y Gymraeg yn eu gwasanaeth neu ddathliadau Nadolig gysylltu â’u swyddog Cymraeg Byd Busnes lleol am gymorth rhad ac am ddim.
Yn ogystal, ar gyfer y gwyliau mae gan S4C arlwy Nadoligaidd i deuluoedd gan gynnwys rhaglenni Cyw sy’n boblogaidd gan blant o bob cefndir ieithyddol.
Cysylltwch â’ch Menter Iaith leol am syniadau i gyflwyno mwy o Gymraeg i’r cartref dros y ‘Dolig.