Ar nos Wener, 21ain o Fedi bydd perfformiad cyntaf o sioe newydd sbon ymlaen yn Theatr Soar, sef sioe Dic Penderyn: Arwr y Bobl Gyffredin!

Dyma gynhyrchiad sydd wedi cael ei greu ar y cyd rhwng Cwmni Theatr Mewn Cymeriad a Menter Iaith Merthyr Tudful o ganlyniad i nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Awdur y sgript yw Mirain Alaw Jones sef swyddog datblygu Menter Iaith Merthyr, a’r cyfarwyddwraig yw Janet Aethwy.

Mae Cwmni Theatr Mewn Cymeriad yn adnabyddus am greu sioeau un cymeriad yn cyflwyno ffigwr hanesyddol i blant. Mae’r cynyrchiadau wedi’u teilwra’n ofalus i gynnig awr addysgiadol adloniadol i blant cyfnod allweddol 2, lle cânt hefyd gyfle i gymryd rhan yn y sioe. Y tro hwn, hanes Dic Penderyn fydd yn cael ei gyflwyno a chyfle i blant ddysgu mwy am sut oedd bywyd i’r bobl gyffredin, a sut brofiad oedd hi i weithio yn y gweithfeydd haearn yn ystod cyfnod o galedi a gorthrwm.

Yn rhan o broses cynhyrchu’r sioe, mae Menter Iaith Merthyr a chwmni Mewn Cymeriad wedi bod yn cynnal gweithdai amrywiol yn Ysgol Rhyd-y-Grug dros y misoedd diwethaf i greu elfen newydd i’r sioe. Cafodd y plant weithdai sgriptio ag actio gyda Mirain a Janet, ac o ganlyniad cawsom ddiwrnod o ffilmio ym mis Mehefin gyda’r plant yn ail-greu protest gwrthryfel Merthyr. Roeddent wedi’u gwisgo yn nillad cyfnod 1831 a cafodd staff yr ysgol weithdy i ddysgu sut mae creu dillad a phrops o hen ddeunyddiau gyda Carys Tudor. Cafodd y plant hefyd weithdy golygu gyda golygydd a chynhyrchydd proffesiynol i greu promo o’r sioe. Bydd y ffilm fer o’r brotest a ffilmiwyd gyda’r plant yn cael ei dangos fel rhan o’r perfformiad nos Wener.

 

Bydd y disgyblion hefyd yn perfformio cân yn rhan o’r sioe. Crëwyd geiriau’r gân gan y plant mewn gweithdy gyda’r bardd Anni Llŷn ac y cyfansoddwr Steffan Rhys Williams sydd wedi creu’r alaw. Bydd y gân yn cael ei pherfformio’n fyw yn rhan o’r sioe nos Wener am y tro cyntaf.

Dyma berfformiad sy’n cynhwyso misoedd o weithdai sydd wedi enyn brwdfrydedd disgyblion Ysgol Rhyd-y-Grug yn eu hanes lleol. Yn y broses maent wedi perchnogi stori Dic Penderyn i greu dehongliad eu hunain o’r hyn a ddigwyddodd yn y brotest, ac maent wedi dod i ddeall poen ag anterth trigolion Merthyr yn 1831 ar lefel ddyfnach. Dewch i fwynhau ffrwyth llafur y plant nos Wener yma mewn cynhyrchiad newydd sbon yn Theatr Soar!

Bydd y perfformiad yn dechrau am 7yh, a thocynnau’n £3 i oedolion ac am ddim i blant.

sioe dic penderyn