Ddydd Mercher y 13eg o Orffennaf, yn y Senedd ym Mae Caerdydd, lansiodd Menter Caerdydd adroddiad o ‘Asesiad o Werth  Economaidd Menter Caerdydd i brifddinas Cymru’ yng nghwmni Vaughan Gething AC, Alun Davies AC, Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ac Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Phil Bale.

Mae gwaith o ddydd i ddydd y Fenter yn helpu Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i weithredu polisiau pwysig sydd yn denu cefnogaeth trawsbleidiol. Nod yr adroddiad yw dangos gwerth mwy eang i waith y Fenter – a rhoi gwerth economaidd i’n gwaith yn y brifddinas.

Mae prif ganfyddiadau’r adroddiad yn cynnwys

  • Cynhyrchodd Menter Caerdydd werth economaidd o £1.9m yng Nghaerdydd yn 2014-15;
  • Cynhyrchodd Menter Caerdydd elw o fuddsoddiad o £2.66 am bob punt o incwm a gafwyd yn 2014-15
  • Cynhyrchodd Tafwyl werth economaidd anuniongyrchol o ychydig dros £1m

Dywedodd y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC

 “Mae datganiad polisi yr Llywodraeth “Bwrw Mlaen” yn gosod ffocws i weithrediad ein Strategaeth Iaith rhwng 2014-2016 ac yn cydnabod yr angen i gryfhau y linc rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg.

Rydym yn croesawu ymdrech Menter Caerdydd i gryfhau’r linc yma yn ein prifddinas ac mae cynnwys yr adroddiad yn atgyfnerthu’r gwaith yma.”

Ac ategodd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd drwy ddweud:

“Rwy’n croesawu cyhoeddi adroddiad heddiw yn fawr, yn enwedig gan ei fod yn cymeradwyo partneriaeth lwyddiannus a llewyrchus Cyngor Dinas Caerdydd a Menter Caerdydd dros y ddeng mlynedd diwethaf.

Mae Menter Caerdydd yn gwneud gwaith arbennig; yn arddangos y gorau o ddiwylliant Cymru, yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith ac yn dangos bod y Gymraeg yn iaith fyw yma ym mhrifddinas Cymru.

Mae’r cyngor yn dryw i godi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y ddinas, a byddwn yn parhau i gyd-weithio gyda Menter Caerdydd a’n partneriaid eraill i wireddu ein gweledigaeth o Gaerdydd ddwyieithog.”

Mae Menter Caerdydd yn hyderus bod y dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad, sy’n amlinellu gwerth economaidd Menter Caerdydd i’r brifddinas, yn atgyfnerthu bod y sefydliad nid yn unig yn brif gyfrwng wrth gyflawni amcanion polisi lleol a chenedlaethol, ond ei fod hefyd yn darparu gwerth am arian ac yn cynnig gwerth economaidd i Gaerdydd. Mae’r Fenter yn edrych ymlaen at barhau gyda’r gwaith hwn dros y blynyddoedd i ddod.

Ewch i wefan Menter Caerdydd am fwy o wybodaeth. Gwelir yr adroddiad ar ochr dde’r dudalen hon.