Ddydd Mercher y 1af o Fehefin, lansiwyd dau Ap Magi Ann newydd yn ystod Parti Magi Ann ar stondin Mentrau Iaith Cymru a Menter Iaith Sir y Fflint ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint.

Bellach mae 6 ap Magi Ann ar gael i’w lawr lwytho AM DDIM o’r AppStore ac o’r PlayStore, i ffôn glyfar neu dabled, ar blatfform IOS ac Android, gyda 52 o straeon syml.

Meddai Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Sir y Fflint,

“Rydym wedi’n syfrdanu gyda’r ymateb sydd wedi bod i Magi Ann ers i ni lansio’r ap cyntaf nol yn Nhachwedd 2014. Mae dros 38,750 o bobl wedi lawr lwytho’r apiau, sy’n profi’n ddiamheuol yr angen am y math hwn o adnodd sy’n helpu rhieni a phlant i ddysgu darllen trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Meddai Alaw Griffiths o Dal-y-Bont, ond yn wreiddiol o’r Wyddgrug:

“Roedd Lleucu fy merch wedi mopio’n lân i gael dathlu ei phen-blwydd yn 4 oed gyda Magi Ann yn ystod lansiad yr apiau! Mae’r apiau yn cael defnydd cyson yn ein tŷ ni, ac mae’n ffordd wych i Lleucu fagu hyder ac annibyniaeth wrth ddysgu ffurfio geiriau a darllen. Diolch Magi Ann!”

Dilynwch Magi Ann ar Twitter @ApMagiAnn ac ar Facebook, i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Menter Iaith Sir y Fflint ar 01352 744040 neu anfonwch e-bost at Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu.