Mae Mentrau Iaith Cymru wedi datblygu ymgyrch haf fydd yn gofyn i bobl o bob oed ledled Cymru i ddatgan eu Cymreictod mewn ffordd hwyliog ac ysgafn. Yn syml, ymgyrch yw hon i annog mwy o bobl, hen ac ifanc i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd, a hynny’n syml – drwy fwynhau.

Teimlwn ei fod yn bryd inni ddathlu’n Cymreictod a datgan i’r byd, ein bod ni, siaradwyr Cymraeg yn mwynhau byw. Gobeithiwn y gall yr ymgyrch – ochr yn ochr ag ymgyrchoedd llwyddiannus eraill megis ymgyrch #pethaubychain – sbarduno mwy o ddidordeb yn y Gymraeg a dangos bod y gymuned Gymraeg yn un ffynniannus a byrlymus.

Gofynnwn i bobl dynnu llun o’u hunain yn gafael yn yr hashfwrdd ac uwchlwytho’r llun ar Facebook a Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #joia a rhannu hynny gyda’u ffrindiau a thu hwnt.

Dywedodd Adam Jones, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r ymgyrch hon yn cynnig cyfle arbennig ini ddathlu’n Cymreictod a chymell ein teuluoedd, ffrindiau ac eraill i wneud yr un peth. Mae’n hynod bwysig ein bod yn ddigon hyderus i ddangos i’r byd ein bod ni, siaradwyr Cymraeg, boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl, yn mwynhau byw ein bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg – nid label yw’r Gymraeg ond rhywbeth byw sy’n cyfoethogi bywydau pob un ohonom.”

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio’n swyddogol yn Eisteddfod yr Urdd, Caerffili, am 11:15 o’r gloch ar stondin Mentrau Iaith Cymru a Menter Caerffili (Unedau 60-62) gyda sesiwn adloniant a chanu i blant gyda Heini.