Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam a Menter Iaith Sir Ddinbych yn archwilio’r syniad o sefydlu Gwasanaeth Cyfieithu Cymunedol newydd yn y Gogledd-Ddwyrain, er mwyn helpu nifer o sectorau yn y rhanbarth cwrdd â’u dyletswyddau cynyddol o dan y Safonau Iaith a hybu a hwyluso defnydd cynyddol o’r iaith ar draws ystod o weithgareddau bob dydd.

Holiadur cychwynnol yw hwn, wedi’i gynllunio i fod mor syml â phosibl ac ni ddylai gymryd llawer o amser i chi ei gwblhau. 7 cwestiwn cyffredinol yn unig sydd, gydag un ychwanegol i gyfieithwyr presennol i ofyn eu barn proffesiynol.

Caiff cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb eu trefnu dros yr haf, unwaith i ganlyniadau’r holiadur cychwynnol cael eu dadansoddi, oherwydd bydd y canlyniadau hynny yn rhoi sylfaen gadarn i’r trafodaethau mwy manwl sydd i ddilyn. Mae rhai trafodaethau wedi digwydd yn barod o ran y fath syniad, a’r gobaith yw y bydd y partneriaid cynnar hynny hefyd yn cwblhau’r holiadur er mwyn bod yn rhan o’r broses ffurfiol, nawr bod yr astudiaeth dichonolrwydd wedi cychwyn go iawn.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gwblhau’r holiadur hwn:

  • ar-lein drwy ddilyn y linc – https://www.surveymonkey.co.uk/r/267FYHH
  • ei argraffu, ei gwblhau a’i bostio nôl (manylion isod)
  • ei argraffu, ei gwblhau, ei sganio ac e-bostio nôl (manylion isod)
  • cwblhau ar y PDF rhyngweithiol hwn ac e-bostio nôl (manylion isod)

Mae croeso i chi flaenyrru’r neges hon at gymaint o gysylltiadau perthnasol â phosib er mwyn ein helpu cael ymateb da i’r astudiaeth dichonolrwydd.

Trwy’r Post at:

Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Corlan, Uned 3, Parc Busnes yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, CH7 1XP

Dros Ebost at:

gill@menterfflint.cymru neu dai@cwmni2.cymru