Un o swyddogion y Mentrau wedi cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn 2016.

Mae Hannah Roberts yn gweithio i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy fel Swyddog Maes sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ym Mlaenau Gwent a Gogledd Sir Fynwy.

Daeth at y Gymraeg drwy ddamwain pan oedd adref un haf o’r brifysgol ac yn chwilio am ‘rywbeth’ i’w wneud. Mynychodd gwrs blasu gyda Chymraeg i Oedolion ac fe gafodd ei bachu gan yr iaith.

Wrth sôn am ei phrofiad, dywed Hannah:

“Ers y pwynt hwnnw, pan oeddwn yn y Coleg,  rwyf wedi manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd i wella fy Nghymraeg.  Ar ben fy ngwersi yn y brifysgol, byddwn yn mynychu dosbarthiadau gyda Chymraeg i Oedolion yng Ngheredigion a Gwent hefyd yn ystod y gwyliau haf.

“Ces i gyfle i gwrdd â phobl sy’n dysgu’r Gymraeg o bedwar ban y byd – ac mae hyn wedi dangos a phrofi, nad yw’r  Gymraeg yn iaith sy’n perthyn i Gymru yn unig, ond yn hytrach yn dangos ei bod ar gael i bawb ac mae gan bawb hawl a chyfle dysgu a byw trwy’r iaith.  Rwyf wedi cwrdd â nifer o’m ffrindiau gorau o ganlyniad i ddysgu’r Gymraeg. “

Dywed Hannah ymhellach:

“Wrth ddysgu’r Gymraeg, mae drysau wedi agor imi. Mae iaith a diwylliant yn perthyn i’w gilydd. Mae diwylliant cyfoethog i’w ddarganfod, dim ond crafu’r wyneb y rwyf wedi gwneud hyd yn hyn. Rwyf yn edrych ymlaen at gyflawni hyn, weddill fy mywyd.”

Dymunwn bob llwyddiant i Hannah yn Rownd Derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2016. Pob lwc i ti!