Mae Gŵyl y Ferch, mewn cydweithrediad ag Oriel Môn a Menter Iaith Môn, yn lansio arddangosfa o waith merched yn unig, ar nos Sadwrn 13eg o Orffennaf am 8pm.

Yn ymateb i anghyfartaledd yn y cyfleoedd i weld gwaith gan ferched, bydd perfformiad gan Lleuwen Steffan a Siân Miriam yn dathlu’r agoriad, gyda thocynnau’r gig am £5 ar y drws (neu i sicrhau lle, ar gael rhagflaen drwy Eventbrite) a’r elw yn mynd i gefnogi merched drwy gynllun Gorwel. Bydd modd ymweld â’r arddangosfa gelf yn Oriel Môn tan y 28ain o Orffennaf yn rhad ac am ddim.

Menter flaengar gan yr artistiaid ifanc Ffion Pritchard, a ennillodd wobr Ysgoloriaeth Celf yr Urdd 2019, ac Esme Livingston yw Gŵyl y Ferch. Mae’n ddatblygiad cyffrous newydd yn y sîn gelfyddydol yng Nghymru ac arianwyd Gŵyl y Ferch eleni gan grant Mentrau Iaith Cymru.

Esme Livingston + Ffion Pritchard

Esme Livingston + Ffion Pritchard

Mae Oriel Môn, dan reolaeth Cyngor Sir Ynys Môn, yn dangos blaengarwch yn y maes wrth wahodd Gŵyl y Ferch i arddangos, gan fod y data yn dangos fod cynifer sylweddol yn llai o ferched sy’n artistiaid yn cael cyfle i arddangos eu gwaith yng Nghymru ac yn y Deyrnas Gyfunol. Er enghraifft, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, dengys data mai gwaith dim ond 83 o ferched i’w gymharu â 273 o ddynion a arddangoswyd yn yr arddangosfeydd dros dro rhwng 2016 a 2018. Mae’r patrwm yn debyg yn Llundain hefyd gyda galeriau megis Tate Modern a’r National Gallery yn addunedu i gynnwys mwy o waith artistiaid sy’n ferched.

Ymysg yr arddangoswyr yn Oriel Môn bydd artistiaid cenedlaethol enwog megis Catrin Williams a Diana Williams yn ogystal ag artistiaid addawol y dyfodol megis Gwenllian Spink. Ceir yma waith hyfryd ar ffurf bwrdd gan Seren Wyn Jenkins, a enillodd Gwobr Celf yr Urdd 2019, ac sy’n tystio drwy ei gwaith i bwysigrwydd arddangosfeydd gwaith merched, gan i Seren gael ei hysbrydoli gan ddwy a arddangoswyd gan Oriel Môn sef Edrica Huws a Josie Russell. Ymysg artistiaid eraill sy’n arddangos gwaith unigryw a thrawiadol mae Rhian Price, Elen Mair Thomas, Iola Smart, Sue Terrey, Llinos Owen, Jenny Barnett, Manon Parry, Suzanna Dee Greenwood, a Wanda Garner.