Gwerth Economaidd y Gymraeg o blith rhai o brif bynciau Cynhadledd Flynyddol y Mentrau Iaith

Eleni, bydd ein cynhadledd flynyddol i Brif Swyddogion a Chadeiryddion y 23 Menter Iaith yng Nghymru yn cael ei chynnal ar y 17eg a’r 18fed o Dachwedd yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful.

Mae Canolfan Soar, sy’n cyfrannu tua £1.3m i economi de-ddwyrain Cymru bob blwyddyn yn ôl adroddiad diweddar, yn ganolbwynt i weithgareddau Cymunedol a Chymraeg ym Merthyr Tudful ac rydym, o ddewis y lleoliad hwn, yn gyffrous iawn cael clywed am rai o brosiectau arloesol Menter Iaith Merthyr a Chanolfan Soar fel Prosiect Posib sy’n defnyddio’r Celfyddydau i fynd i’r afael â threchu tlodi, codi hyder a chreu cymunedau lle y bydd y Gymraeg yn ffynnu.

Yn ogystal byddwn yn canolbwyntio ar sut mai esblygu’r Mentrau Iaith i’r dyfodol ac yn trafod datblygiadau diweddar fel adroddiad ‘Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned’ a pholisi gwirfoddoli newydd Llywodraeth Cymru: Cefnogi Cymunedau: Newid Bywydau.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at wahodd Lles Cyf, fydd yn trafod Gwerth economaidd y Gymraeg i fusnesau a chynlluniau cyffrous i gynorthwyo mwy o fusnesau yng Nghymru i weld manteision y Gymraeg.

Dywed Iwan Hywel, Swyddog Hyfforddiant Mentrau Iaith Cymru:

“Bydd y gynhadledd yn gyfle gwych i ddwyn profiadau ynghyd a thrafod syniadau newydd er mwyn esblygu gwaith y Mentrau Iaith i’r dyfodol.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael ymweld â Chanolfan ysbrydoledig fel Canolfan Soar ym Merthyr, sydd wedi sbarduno cymaint o weithgarwch cymunedol yn yr ardal, sydd, yn ei sgil wedi dod â chyfleoedd newydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.”

Er mai cynhadledd breifat yw hon, bydd modd dilyn hynt y trafodaethau ar ein cyfrif Twitter, @mentrauiaith neu drwy ddilyn yr hashnod #mentrau15