Bydd y Mentrau Iaith dros Gymru yn parhau gyda’u harlwy ddigidol Cymraeg i blant yn ystod cyfnod gwyliau’r haf er mwyn sicrhau cyfleoedd hwyliog i ddefnyddio’r Gymraeg gartref. 

Yn ogystal â chystadleuaeth genedlaethol Brwydr y Bwgan Brain a Chlwb Theatr Cymru i blant mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru, bydd llu o weithgareddau gan fentrau unigol megis Amser Stori, Clwb Gemau Fideo, Gemau Gwirion Gwent, Disgo Cwis a mwy. 

Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru; 

“Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru wedi bod yn brysur iawn yn cynnig pob mathau o gyfleoedd i bobl o bob oed allu defnyddio eu Cymraeg yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Rydym wedi llwyddo i wneud hyn drwy gyfrwng technoleg gan ganiatáu i filoedd o bobl ddefnyddio’r iaith mewn amryw o glybiau, dosbarthiadau a gwyliau. Rydym yn falch iawn o allu parhau i gynnig amrywiaeth o weithgareddau niferus i blant o bob oed allu defnyddio’u Cymraeg wrth fwynhau’r gwyliau.”  

Gyda thros 300 o fideos ar restrau chwarae Youtube Mentrau Iaith, dros 700 o weithgareddau amrywiol ar grŵp Facebook Gweithgareddau Cymraeg Gartref, a chalendr ddigwyddiadau lawn ar wefan www.mentrauiaith.cymru mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn ffyddiog bod rhywbeth at ddant pawb ym mhob rhan o’r wlad.  

Er mwyn rhannu gwybodaeth am weithgareddau Cymraeg i blant dros yr haf bydd y Mentrau Iaith yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru a Cymraeg i Blant drwy ddefnyddio #HafLlawnCymraeg #SummerFullOfWelsh 

Dyma rai syniadau i bawb ddefnyddio ychydig o Gymraeg gartref.