Gwahoddir Ceisiadau gan Gwmnïau Cymwysedig ar gyfer Tendr Cefnogaeth Adnoddau Dynol y Mentrau Iaith

Mae Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am gwmni allanol er mwyn:

  1. Cysoni cytundebau, llawlyfrau a pholisïau Adnoddau Dynol y Mentrau Iaith
  2. Diweddaru llawlyfr polisïau staffio yn flynyddol i bob Menter yn y cynllun
  3. Hyfforddiant blynyddol Adnoddau Dynol i Reolwyr y Mentrau
  4. Cefnogaeth ragweithiol barhaus
  5. Cefnogaeth i ddelio gydag achosion unigol gan gynnwys opsiynau am gefnogaeth cyfreithiol

Nod y cytundeb yw cryfhau seilwaith Adnoddau Dynol y Mentrau Iaith drwy bwrcasu cefnogaeth Adnoddau Dynol canolog ar y cyd.

Gwnaethpwyd Adolygiad o safonau darpariaeth Adnoddau Dynol y Mentrau Iaith yng Ngwanwyn 2018 ac mae copïau o’r adroddiad hwnnw ar gael i gwmnïau sydd â diddordeb gwneud cais am y tendr yma.

Cytundeb i ddechrau o Ebrill 2019 ymlaen.

Bydd y gwaith yn cael ei gydlynu gan Arweinydd Tîm MIC, Iwan Hywel, sydd wedi ei leoli ym mhrif swyddfa Mentrau Iaith Cymru yn Llanrwst.

Os oes gennych ddiddordeb i gyflawni’r gwaith uchod, gofynnir i chi gyflwyno pris cyflawn am y gwaith uchod am gyfnod o un flwyddyn, a phris am flwyddyn 2 a 3 ble na fydd gofyn am yr holl elfennau uchod, ynghyd â chefndir eich cwmni i Arweinydd Tîm MIC drwy e bost i iwanhywel@mentrauiaith.cymru a hynny erbyn 19/03/2019.

Gobeithiwn hysbysu’r cwmni llwyddiannus erbyn 25/03/2019 gyda’r cyfarfodydd cychwynnol i drefnu’r gwaith cyn diwedd Mawrth 2018.

Os am fwy o wybodaeth gellir cysylltu â’r swyddfa ar (01492 643401) neu e bostio:

Iwan Hywel – iwanhywel@mentrauiaith.cymru

Cyflwyniad i’r Mentrau Iaith

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol, gwirfoddol a deinamig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru, ac mae Mentrau Iaith Cymru yn cefnogi eu gwaith yn genedlaethol i gynyddu’r defnydd o’r iaith yn ein cymunedau.

Mae 22 Menter Iaith ledled Cymru, gydag 19 o’r rhain yn endidau annibynnol sydd o bosib yn mynd i o ddod yn rhan o’r cefnogaeth Adnoddau Dynol yma. Maent yn gyfuniad o gwmniau cyfyngedig drwy warant ac elusennau gyda chyfanswm o 160 aelod o staff sydd gyfwerth llawn amser.