Gyda llawer o ddigwyddiadau wedi’u gohirio a’u canslo dros y misoedd nesaf gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, ni fydd Magi Ann ychwaith yn gallu mynd o amgylch y wlad i gyfarfod â phlant Cymru.

Mae Magi Ann yn enwog am ei 6 ap sy’n cynnwys straeon lliwgar a gemau hwyliog i helpu plant a’u teuluoedd i ddysgu darllen Cymraeg. Mae’r apiau ar gael i’w lawrlwytho am ddim oddi ar storfa apiau ios ac Android. Fel arfer, fe welir Magi Ann yn aml mewn digwyddiadau ar draws Cymru ond yn sgil y sefyllfa yng Nghymru o ran Covid -19 ni fydd modd i Magi Ann gynnal na mynychu digwyddiadau am y tro.

Eisteddfod Magi Ann Cymraeg

Oherwydd hyn, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi mynd ati i drefnu a chynnal Eisteddfod Magi Ann ar lein i gadw plant ar draws Cymru yn brysur yn ystod y cyfnod anodd hwn. Cynhelir 5 cystadleuaeth i gyd:

1. Fideo Rap ap Magi Ann

‘Clip Fideo Rap ap Magi Ann’- Anogir plant i recordio ffilm o’u hunain yn dawnsio a meimio / canu i Rap ap Magi Ann. Mae croeso i aelodau’r teulu ymuno yn yr hwyl hefyd. Dyddiad cau y gystadleuaeth hon yw Dydd Gwener, 24.04.20.

2. Celf a Chrefft

‘Ail-gylchu gyda Magi Ann’- Anogir plant i ddefnyddio’r hyn sydd o gwmpas y tŷ i greu gwaith celf ar thema Magi Ann, e.e. Tŷ Magi Ann o focsys serial, ffrindiau Magi Ann o begs dillad. Dyddiad cau y gystadleuaeth hon yw Dydd Llun, 20.04.20.celf a chrefft

3. Barddoniaeth

‘Cerdd Acrostig MAGI ANN’- Anogir plant i ysgrifennu cerdd gyda phob llinell yn dechrau gyda llythyren enw Magi Ann. Dyddiad cau y gystadleuaeth hon yw Dydd Mawrth, 21.04.20.

4. ‘Sgwennu Stori

‘Magi Ann yn Saff yn y Tŷ’- Anogir plant i ysgrifennu stori yn cynnwys Magi Ann a’i ffrindiau o dan y teitl ‘Saff yn y Tŷ’. Dyddiad cau y gystadleuaeth hon yw Dydd Mercher, 22.04.20.

5. Creu Pôs

Anogir plant i wneud pôs er mwyn cadw pawb yn brysur .e.e. Chwilair, ‘Beth sy’n Wahanol? mewn 2 lun neu Helfa Ddirgel. Dyddiad cau y gystadleuaeth hon yw Dydd Iau, 23.04.20.

Mae’r cystadlaethau Fideo Rap ap Magi Ann, Celf a Chrefft a Chreu Pôs yn agored i blant o bob oed ac ar gyfer y cystadlaethau Barddoniaeth a ‘Sgwennu Stori mi fydd 6 categori sef:

  • Bl.1 – Bl.2 Cymraeg Iaith Gyntaf
  • B.1 – Bl.2 Cymraeg Ail Iaith
  • Bl.3 – Bl.4 Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Bl.3 – Bl.4 Cymraeg Ail Iaith
  • Bl.5 – Bl.6 Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Bl.5 – Bl.6 Cymraeg Ail Iaith

Gofynnir i bobl yrru eu gwaith a’u campweithiau i apmagiann@gmail.com erbyn y dyddiadau cau, ac yna fe rhennir y goreuon ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam a Magi Ann. Mi fydd enillwyr pob un gystadleuaeth yn derbyn gwobr.