Mae DJ, Michael Ruggiero, o Lansannan yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfoeth o gerddoriaeth Gymraeg ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru diolch i gefnogaeth gan y Mentrau Iaith.

Dan yr enw Mic ar y Meic, mae Michael wedi bod yn DJio ers dros 30 mlynedd mewn pob math o ddigwyddiadau, gan gynnwys disgos ysgol i blant ysgol gynradd ar draws Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych a Chonwy. Drwy chwarae cerddoriaeth Gymraeg boblogaidd a chyfuno perfformiadau gyda chymeriadau o sioeau S4C fel Donna Direidi a Ben Dant, mae Michael yw codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg mewn plant bach.

Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd i bobl Wrecsam fel y compère dwyieithog mewn amryw ddigwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Sgwâr y Frenhines sy’n dilyn yr orymdaith flynyddol.

Meddai Michael;

“Rwy’n defnyddio cymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg poblogaidd er mwyn cael y plant i ddawnsio a chanu. Rydw i hefyd chwarae ychydig o gemau hwyliog sy’n annog y defnydd o’r iaith Gymraeg mewn awyrgylch hamddenol. Dyma’r tro cyntaf y bydd rhai o’r plant erioed wedi clywed cerddoriaeth pop neu roc Cymraeg.

Rwy’n ddiolchgar iawn am y cymorth rwy’n ei dderbyn gan y Mentrau Iaith lleol. Rwy’n teimlo eu bod yn gweithio’n galed i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal. Yn ddiweddar, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi helpu i sefydlu sioe radio ‘Gog a Hwntw’ ar yr orsaf radio leol, Calon FM, i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfa hollol newydd “

Meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam;

“Rydym yn falch iawn o gael Michael yn DJio ac yn ein cynorthwyo yn ein digwyddiadau, lle mae ei sgiliau dwyieithog yn amhrisiadwy. Mae cerddoriaeth yn rhan mor bwysig o ddiwylliant Cymru y teimlwn ei bod hi’n bwysig dangos yr ystod eang o gerddoriaeth Gymraeg sydd ar gael i bawb, siaradwyr Cymraeg neu beidio, i fwynhau. “

Michael yn mwynhau wrth ei waith

Michael yn mwynhau wrth ei waith