Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dysgwyr Cymraeg ydy siarad efo Cymry Cymraeg.

Am ryw reswm mae siaradwyr iaith gyntaf yn ei gweld yn anodd cefnogi dysgwyr. Mae’n ddirgelwch mawr pam bod Cymry’n newid i’r Saesneg ar ddim, neu’n teimlo’r angen i gywiro dysgwyr, neu siarad mewn Cymraeg mor safonol byddai rhywun yn meddwl i’r person hwnnw lyncu geiriadur.

Dim ond rhai o’r problemau sydd uchod a gafodd eu hamlygu gan ymchwil wnaed i’r heriau wrth geisio cymathu dysgwyr i gymunedau Cymraeg. Canlyniad yr ymchwil oedd y Cynllun Peilot Cymarfer. Drwy gyfres o fideos a phecyn digidol wedi eu hariannu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae’r do’s a’r don’t’s fel petai ar sut i siarad efo dysgwyr Cymraeg mewn ffordd gefnogol. Un o’r pethau gorau am y prosiect hwn ydy mai dysgwyr sy’ wedi cyfrannu at awduro ac actio yn y fideos ar y cyd efo’r tiwtor ac awdur profiadol, Mared Lewis a Manon Prysor. Mae pob fideo wedi tynnu ar brofiadau dysgwyr go iawn wrth geisio ymarfer siarad Cymraeg o ddydd i ddydd.

Ail ran y cynllun ydy treialu ‘Cymarfer’ gyda busnesau Llangefni. Prosiect ydy hwn i annog dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg o ddydd i ddydd gyda busnesau a siopau lleol. Ar y cyd gyda Menter Iaith Môn, daeth busnesau tref Llangefni yn rhan o’r prosiect. Mae busnesau lleol sydd wedi ymrwymo i’r cynllun yn fodlon siarad Cymraeg gyda dysgwyr. Os ydy’r dysgwyr yn defnyddio’r Gymraeg yn y siop, maent yn cael ‘stamp’ ar eu cerdyn Cymarfer. Ar ôl casglu 8 stamp, maent yn dychwelyd y cerdyn i swyddfa Menter Iaith Môn, yn Neuadd y Dref, Llangefni am gyfle i ennill gwobr o Ysgol Haf gyda’r Ganolfan Gymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd Angharad Mai Jones, Swyddog Cymraeg Byd Busnes, Menter Iaith Môn,

“Mae hwn yn gyfle gwych i ni yma yn Llangefni i arwain y ffordd gyda busnesau yn cefnogi dysgwyr Cymraeg. Mae’na ymateb cadarnhaol iawn wedi bod hyd yma, gyda mwyafrif busnesau’r dref yn hapus i fod yn rhan o’r prosiect Cymarfer.”

Bu lansiad swyddogol ‘Cymarfer’ yn Neuadd y Dref Llangefni mewn Brecwast Busnes, a braf oedd gweld cymaint o ddysgwyr yn y digwyddiad. Dywedodd Non Hughes, Swyddog Adnoddau dynol, Cyngor Ynys Môn

“Rydym yn falch iawn o allu hybu cynllun Cymarfer efo dysgwyr Cyngor Sir Ynys Môn. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cynnig cyfleoedd i’n dysgwyr ddefnyddio’u Cymraeg tu allan i’r dosbarth, boed hynny yn y gweithle neu’n gymdeithasol. Mae hi’n braf gweld busnesau lleol Llangefni yn ymrwymo i gefnogi dysgwyr. Mae pethau syml yn gwneud byd o wahaniaeth – siarad yn araf a bod yn amyneddgar. Gobeithio y bydd y cynllun yn annog mwy o bobl i siopa’n lleol, ac i wneud hynny yn Gymraeg. Ac mae’r cyfle i ennill lle yn Ysgol Haf Dysgu Cymraeg GO yn gymhelliant gwych i fynd amdani!”

Os ‘dach chi’n nabod busnes neu ddysgwyr yn ardal Llangefni fyddai’n hoffi bod yn rhan o beilot ‘Cymarfer’, cysylltwch efo Ifor Gruffydd (i.gruffydd@bangor.ac.uk) neu mae adnoddau i’w cael o swyddfa’r Fenter Iaith leol (01248 725700 / iaith@mentermon.com)

Mae pecyn digidol Cymarfer ar gael yma