Mae line up Gŵyl Tafwyl, gŵyl gelfyddydol Gymraeg Caerdydd wedi ei gyhoeddi, wrth i’r digwyddiad ddychwelyd i Gastell Caerdydd ar yr 2il a’r 3ydd o Orffennaf.

Mae’r trefnwyr, Menter Caerdydd wedi datgelu cymysgedd eclectig o fandiau ac artistiaid ar gyfer y digwyddiad eleni sy’n sicr o apelio at gynulleidfa eang. Cyhoeddir yr artistiaid gan lysgennad newydd yr ŵyl, seren roc Americanaidd a chyn drymiwr y Flaming Lips, Kliph Scurlock:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i brofi fy Tafwyl cyntaf. Mae’n rhywbeth rwy wedi clywed pobl yn siarad llawn cyffro amdano, ond rwy ddim wedi bod yma i fod yn bresennol.

Rwy wedi symud yn ddiweddar i Gaerdydd o Kansas, yn bennaf oherwydd fy nghariad at y gerddoriaeth unigryw a rhyfeddol sy’n cael ei greu yng Nghymru. Mi fyddai yn Tafwyl eleni heb os!”

Ar ddydd Sadwrn Maffia Mr Huws, Band Pres Llareggub, Swnami a Candelas fydd ymhlith y bandiau yn cymryd i’r Brif Lwyfan, gyda Y Niwl, Cowbois Rhos Botwnnog, Palenco a Bryn Fôn yn perfformio ar ddydd Sul.

Draw ar y Llwyfan Acwstig, Meic Stevens, Alys Williams, Colorama, Plu, Al Lewis a Huw M fydd ymysg yr artistiaid o bob cwr o Gymru yn perfformio ar y llwyfan.

Bydd 34 o fandiau yn chwarae dros ddeuddydd, diolch i nawdd hael gan BBC Radio Cymru ar gyfer y Prif Lwyfan, a Clwb Ifor Bach ar gyfer y Llwyfan Acwstig. Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Caerdydd hefyd yn parhau i gefnogi’r ŵyl.

Dros y blynyddoedd mae Tafwyl wedi datblygu o ffair fechan i ddigwyddiad dau ddiwrnod yn y castell gyda chynulleidfa o dros 34,000 o bobl yn mynychu llynedd. Mae’r trefnwyr wedi llwyddo i greu digwyddiad unigryw ac arbennig ar gyfer y brifddinas, sydd yn ddathliad balch o bopeth Cymreig.

Un o brif atyniadau Tafwyl yw ei fod yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, mewn lleoliad eiconig yng nghanol y ddinas, gan ei wneud yn ddigwyddiad hynod hygyrch i bawb; boed yn siaradwr Cymraeg, neu’n cael eu profiad cyntaf o’r iaith a’r diwylliant.

Pwysleisiodd Kliph Scurlock, bod modd mwynhau’r digwyddiad, a cherddoriaeth Gymreig, er nad yw’n siarad yr iaith;

“Rwy’n deall prin ddim Cymraeg (rwy’n bwriadu cymryd gwersi i gywiro hynny!), ond dwi bob amser wedi mwynhau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

Mae yna rywbeth am yr iaith sydd yn swnio’n hynod braf i fy nghlust, ac er fy mod yn colli allan ar rai geiriau anhygoel, mae sŵn y geiriau eu hunain yn paentio llun digon byw nad wyf erioed wedi teimlo fel mod i wedi bod yn colli allan.

Rwy’n gyffrous iawn i dreulio dau ddiwrnod yn ymgolli yn llwyr mewn amrywiaeth eang o gerddoriaeth Gymraeg yn Tafwyl eleni.”

Mae rhestr lawn o artistiaid yr ŵyl i’w weld a’r Wefan Tafwyl.

Os hoffech wybod mwy am waith Menter Caerdydd i hyrwyddo’r Gymraeg yn y brif-ddinas, ewch draw i’w gwefan.