Mae cymunedau yng nghalon y Mentrau Iaith, gyda phob Menter yn gweithio’n agos gyda’u cymunedau lleol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy amryw ffordd. Hoffai’r Mentrau Iaith gyhoeddi enwau’r 3 prosiect sydd wedi cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau’r Mentrau Iaith: 

Iwcadwli Cered: Menter Iaith Ceredigion 

Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli sy’n perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a’r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg a’n gweld Iwcadwli yn gyfle amhrisiadwy i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. 

Meithrinfa Derwen Deg – Menter Iaith Conwy 

Yn ateb i ddiffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg yn ardal arfordirol Sir Conwy aeth Menter Iaith Conwy ati i gyd-weithio’n agos ag aelodau’r gymuned i greu menter gymdeithasol newydd i ateb y galw. Erbyn hyn mae Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg yn cynnig gofal i ddegau o blant pob dydd ac yn cyflogi 12 aelod o staff sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Profi – Menter Gorllewin Sir Gâr  

Pwrpas cynllun Profi yw datblygu sgiliau byd gwaith pobl ifanc a chynyddu eu hunan hyder er mwyn creu cymuned lewyrchus a naturiol ddwyieithog. Drwy gynnig cefnogaeth creu CV, sesiynau ymwybyddiaeth iaith a chymorth darganfod lleoliadau gwaith mae Profi yn cefnogi adfywio lleol ac yn annog pobl ifanc aros yn eu cymunedau. 

Mae’r categori wedi ei noddi gan Ganolfan Cydweithredol Cymru (Co-op Cymru) Cwmni cydweithredol sy’n gweithio gyda phobl, cymunedau a mentrau er mwyn newid bywydau er gwell. Mae’n gweithio i sicrhau economi decach a gwyrddach.