Ar faes Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint ddydd Llun 30 Mai am 12.30yp ar stondin Coleg Cambria, fe fydd ColegauCymru a Mentrau Iaith Cymru yn lansio Memorandwm Cydweithio sy’n amlinellu dymuniadau a bwriad y ddau fudiad i gydweithio yn  agos er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg.

Mae ColegauCymru a Mentrau Iaith Cymru yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a chynyddu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bobl Cymru.

Gyda’i gilydd byddant yn hyrwyddo manteision dwy iaith i bobl ifanc Cymru drwy bwysleisio’r Gymraeg fel sgil cyflogadwyedd. Yn ogystal, mi fydd ColegauCymru a Mentrau Iaith Cymru yn cefnogi arweiniad strategol a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog y colegau addysg bellach.

Mae’r ddau sefydliad yn awyddus i adeiladu ar eu llwyddiannau unigol, i gydweithio ar lefel strategol er mwyn cefnogi cynnydd mewn cyfleoedd Cymraeg a dwyieithog ar gyfer pobl yng Nghymru. Drwy weithio’n effeithiol gyda’i gilydd bydd modd ehangu’r gynulleidfa fydd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ddau bartner.

Dywedodd Claire Roberts, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ColegauCymru,

“Drwy gydweithio rydyn ni’n fwy tebygol o fedru sicrhau cyfleon allgyrsiol yn lleol yn enwedig yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog.  Heb os, bydd gwasanaethau’r Mentrau o allu trefnu a chynnal gweithgareddau allgyrsiol cyfrwng Cymraeg yn help mawr i’r colegau wrth iddynt fynd ati i ymestyn cyfleon dwyieithog i fyfyrwyr.

“Gyda dwy ran o dair o fyfyrwyr oed 16-19 yn derbyn addysg a hyfforddiant drwy’r colegau addysg bellach, mae gennym gynulleidfa fawr fydd yn gallu elwa o’r cydweithio hwn.  Edrychaf ymlaen yn fawr at weld y bartneriaeth genedlaethol hon yn dwyn ffrwyth.”

Dywedodd Emily Cole, Cydlynydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r Mentrau Iaith hyd a lled Cymru yn cydnabod a sylweddoli pwysigrwydd a chyfraniad colegau addysg bellach i ddarparieth hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bobl o bob oed, ond yn enwedig i bobl ifanc sydd ar fin, neu newydd adael yr ysgol.

Mae sicrhau cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i bobl sydd mewn cyswllt â’u Colegau i ddefnyddio’r Gymraeg yn holl bwysig ac rydyn ni’n bwriadu adeiladu ar y cydweithio a phartneriaethau da sydd eisoes wedi ffurfio rhwng y Mentrau a’r colegau drwy weithredu’r memorandwm.”