Fel rhan o ymgyrch y Mentrau Iaith, mae aelodau o garfan Cymru i Gwpan Rygbi’r Byd wedi gosod addewid i’r Gymraeg wrth ganu’r geiriau ‘O Bydded i’r Heniaith Barhau’.

Bydd cannoedd ar filoedd yn canu’r geiriau hyn yn gyson wrth gefnogi’r tîm cenedlaethol ond mae’n amser i’r cefnogwyr ystyried gwir ystyr y geiriau gan Evan James a gwneud rhywbeth er mwyn i’r iaith barhau. Dros gyfnod y twrnamaint bydd y Mentrau Iaith, rhwydwaith o 22 menter sy’n gweithio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau, yn annog pawb sy’n canu’r anthem i wneud addewid i wneud rhywbeth dros yr iaith. Boed trwy ddefnyddio mwy ohoni, i wirfoddoli mewn digwyddiadau Cymraeg – mae pob gweithred yn werthfawr wrth fynd ati i gryfhau’r iaith ar lawr gwlad.

Un sydd yn cefnogi ffyniant y Gymraeg yn y gymuned yw Rhys Patchell, maswr yng ngharfan Cymru. Fe’i magwyd yn Gymraeg yng Nghaerdydd gyda’i angerdd at yr iaith yn ei arwain i fod yn lysgennad gŵyl Tafwyl, Gŵyl Gymraeg y brifddinas sydd yn cael ei threfnu gan y Fenter Iaith leol. Dywed;

“Mae siarad Cymraeg yn rhan bwysig o fy mywyd, ac rydw i’n falch iawn fy mod i’n gallu gwneud hynny pob diwrnod gyda ffrindiau, teulu a nifer o fy nghyd-chwaraewyr ar y cae rygbi. Mi oeddwn i’n ffodus i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae’n galonogol fod modd i bobl o unrhyw oedran ddysgu’r iaith. Mae’r anthem genedlaethol yn sôn am bwysigrwydd i’r heniaith barhau, a byddwn i’n annog pobl i gysylltu gyda’r Mentrau Iaith i ffeindio mas sut gallant helpu i wneud hynny.”

Mae’r Mentrau Iaith yn cynnig 6 syniad o bethau gall bawb wneud o ddydd i ddydd, sef gofyn am wasanaeth Gymraeg, defnyddio enwau a geirfa brodorol a chynhenid, defyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, mynychu digwyddiadau Cymraeg yn eich cymuned, cyfrannu i brosiectau cenedlaethol Cymraeg ac wrth gwrs i wirfoddoli gyda’ch Menter Iaith leol.

Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru;

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cael cydweithrediad Undeb Rygbi Cymru ar yr ymgyrch hwn. Mae’n bleser gweld chwaraewyr Cymru yn canu’r geiriau hyn ar y cae rygbi ac yn gwneud addewid i’r Gymraeg. Wrth anelu am darged Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 rydym yn gweithio’n galed yn ein cymunedau er mwyn cynyddu’r defnydd o’r iaith fel ei bod yn cael ei siarad yn gymdeithasol y tu allan i furiau’r ysgol. Rydym yn annog i bawb sy’n canu’r geiriau ‘O Bydded i’r Heniaith Barhau’ i greu addewid i’r iaith.”

tips cymraeg