Mae Canolfan Gymraeg Saith Seren yn Wrecsam wedi bod yn un o gonglfeini diwylliant Cymreig a Chymraeg mewn ardal Seisnigaidd wrth y ffin ers 2012. Gyda digwyddiadau Cymraeg yn cael eu trefnu pob wythnos, mae’r ganolfan yn llwyfannu degau o artistiaid pob blwyddyn, yn cynnwys corau lleol a chantorion ifanc.

Dywed Chris Evans, Cadeirydd y ganolfan sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiadau;

“Wnes i ymuno a’r Bwrdd Rheoli ar ôl arwain yr ymgyrch leol i godi arian i achub y ganolfan yn 2015. Wnes i gymryd drosodd fel Cadeirydd yn 2017, a rhan fawr o fy rôl erbyn hyn yw trefnu a marchnata gigiau a nosweithiau Cymraeg.

Rwyf wedi gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn rheolaidd ers y 90au, yn bennaf trwy gyfrwng Radio Cymru. Dwi’n ffan fawr o’r cewri fel Meic Stevens, Dafydd Iwan a Bryn Fôn, a hefyd y genhedlaeth iau, fel Daniel Lloyd a Mr. Pinc. Ond dros y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi ymddiddori mwy fyth yn y sin roc Cymraeg, oherwydd fy mod i bellach yn gyfrifol am drefnu gigiau Cymraeg yn Saith Seren.

Rydw i’n ceisio darparu amrywiaeth o nosweithiau, o’r hen ffefrynnau fel Bryn Fôn a’r Band, i fandiau ifanc cyffrous fel Gwilym. Fydd y cewri fel Dafydd Iwan ddim yn chwarae am byth, felly mae’n braf gweld rhai fel Candelas yn sefydlu eu hunain fel y genhedlaeth nesaf o fawrion y sin roc Gymraeg.”

Mae’r Fenter Iaith leol, Menter Iaith Fflint a Wrecsam, yn gefnogol iawn o waith y ganolfan gan gynnal digwyddiadau cymdeithasol yno’n rheolaidd ac yn darparu cefnogaeth ariannol i gynnal gigiau. Un o’r rhain oedd gig  gyda Fleur de Lys a chefnogaeth gan Ffracas wedi’i anelu at bobl ifanc ym mis Mai 2018;

“Dwi’n falch o ddweud  bod y Fenter hefyd wedi cytuno i gydweithio eto ar gig gyda Gwilym a Ffracas ym mis Mawrth. Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn gwneud gwaith arbennig o dda gyda phlant, teuluoedd a dysgwyr, a dwi’n falch eu bod nhw wedi cytuno i helpu Saith Seren ddarparu adloniant ar gyfer pobl ifanc.”

Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam;

“Rydym yn falch iawn o’r cyfle i weithio’n gyson gyda Chanolfan y Saith Seren, sydd yn ganolbwynt i bethau Cymraeg a Chymreig yn Wrecsam.  Mae cerddoriaeth yn beth pwysig iawn ym mywydau plant a phobl ifanc ac yn gallu dylanwadu ar y cylchoedd cymdeithasol mae nhw’n symud ynddyn nhw ac felly eu defnydd o’r Gymraeg.  Mae’n holl bwysig yma yn y gogledd ddwyrain ble mae llawer o’r plant sydd yn derbyn addysg Gymraeg yn dod o gartrefi di-gymraeg bod yna ddigon o gyfleoedd iddyn nhw glywed cerddoriaeth Gymraeg cyfoes.”

Agorwyd Saith Seren yn 2012 yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 2011. Esbonia Chris;

“Roedd criw o bobl, o dan arweiniad y Cynghorydd Marc Jones, yn credu bod angen adeiladu ar y cynnydd mewn balchder dros yr iaith yn yr ardal, a darparu canolbwynt i ddigwyddiadau cymdeithasol Cymraeg. Prynwyd tafarn The Seven Stars gan Gymdeithas Dai Clwyd Alun er mwyn ei rhentu i’r Pwyllgor a agorwyd ‘Saith Seren’ ym mis Ionawr 2012.

Bu nosweithiau arbennig o dda yn y blynyddoedd cyntaf, ond ni weithiodd pob arbrawf, ac erbyn 2015, cyhoeddwyd y byddai’n cau oherwydd colledion ariannol. Sbardunodd y cyhoeddiad ymgyrch i geisio codi arian i achub y ganolfan, a llwyddwyd i ennill digon o gefnogaeth i wrthdroi’r penderfyniad. Ers 2015, mae Saith Seren wedi sefydlogi yn ariannol, ac mae’n brysurach nag erioed. Rwyf yn gobeithio y bydd Saith Seren dal yn weithgar mewn blynyddoedd i fy nhri o blant gael mwynhau cymdeithasu drwy’r Gymraeg pan fyddan nhw’n oedolion.”

Mae Chris yn athro Bioleg a Seicoleg yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam ers dros chwarter canrif a creda bod angen mwy mwy o gymorth i hybu ac annog bandiau ifanc Cymraeg yn y Gogledd Ddwyrain. Dywed;

“Dwi’n falch iawn o lwyddiant Daniel Lloyd, gan fy mod i wedi chwarae rhan fach yn ei ddatblygiad fel athro iddo yn Ysgol Morgan Llwyd. Dwi hefyd yn gyn-athro a ffrind i hogia ‘The Trials of Cato’, sy’n recordio ambell gân Gymraeg. Byddai gweld band ifanc llwyddiannus o Wrecsam neu’r Wyddgrug yn gwneud byd o les i Gymreictod plant yr ardal.”

Mae 19 gig eisoes wedi ei threfnu ar gyfer 2019 yn y ganolfan gydag amrywiaeth eang fel nosweithiau gorawl, gwerin a roc.

8