Roedd stondin Menter Iaith Sir y Fflint a Mentrau iaith Cymru yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint yn llawn lliw, hwyl a bwrlwm trwy gydol yr wythnos.

Roedd ymwelwyr ieuengaf yr Eisteddfod wrth eu boddau yn cael chwarae yn Nhŷ Bach Twt Magi Ann, a mynychu’r Partïon ac Amser Stori Magi Ann dyddiol, ac ymweliadau cymeriadau Cyw a Stwnsh. A phob un yn gadael â gwen mawr ar eu hwynebau ar ôl derbyn tatŵ a llyfr gweithgareddau Magi Ann.

Atyniad mwyaf poblogaidd y stondin, fodd bynnag oedd y sesiynau swops sticeri panini, gyda phlant bach a mawr yn heidio draw i gyfnewid sticeri efo ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru, gyda sawl un yn sôn mai dyma eu hoff weithgaredd yn yr holl Eisteddfod!

Cafwyd sesiwn holi ac ateb bywiog gyda Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, a dwy lansiad llwyddiannus i lyfryn diwygiedig ar fanteision Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint, a dau ap newydd Magi Ann.

Braf hefyd oedd gweld gwaith celf lliwgar prosiect Baneri Balchder y Fflint a gydlynwyd gan Fenter Iaith Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint yn addurno Caffi Mr Urdd a Stryd Fawr y Fflint.

Meddai Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Sir y Fflint:

“Roedd hi’n fraint ac yn anrhydedd cael croesawu pawb i’n cornel fach ni o Gymru ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016. Cafwyd tywydd anhygoel, croeso twymgalon ac wythnos i’w chofio.

Diolch i bawb am eu cymorth ar y stondin trwy’r wythnos, a gobeithio fod pawb wedi cael blas ar frwdfrydedd ac angerdd pobl Sir y Fflint tuag at y Gymraeg.”

Bydd Mentrau Iaith Cymru a Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy yn cynnal stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fenni ym mis Awst. Cysylltwch â’ch menter iaith leol i wybod mwy am brosiectau a chynlluniau yn eich ardal chi i hyrwyddo’r Gymraeg.