Mae C2 Radio Cymru, Maes B a Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am fandiau newydd gorau Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, sy’n cael ei lansio ar ei newydd wedd am y tro cyntaf heddiw.

 

Bwriad y gystadleuaeth yw rhoi llwyfan i ddoniau ifanc sy’n awyddus i dorri i mewn i’r Sîn Gymraeg, ac mae’r cynllun yn cynnig pob math o brofiadau go iawn i’r cystadleuwyr, er mwyn iddyn nhw gael blas ar nifer o agweddau o’r Sîn.

 

Mae’r gystadleuaeth eleni’n cyfuno’r ddwy gystadleuaeth a fu’n cael eu cynnal yn y gorffennol, y naill wedi’i threfnu gan yr Eisteddfod a Maes B a’r llall gan C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru, a’r bwriad yw cynnig profiad gwerthfawr i’r cystadleuwyr ac annog rhagor o fandiau a pherfformwyr i gymryd rhan.

 

Yn ogystal â’r cyfle i chwarae ym Maes B yn yr Eisteddfod eleni a pherfformio sesiwn ar C2 Radio Cymru, bydd enillydd y gystadleuaeth hefyd yn cael eu ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1, S4C ac yn cael eu cynnwys yng nghylchgrawn Y Selar.  Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000, gyda gwobr arall o £100 ar gael i’r cerddor gorau yn y gystadleuaeth.

 

Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol hefyd yn rhan o gynllun mentora newydd a drefnir gan C2 Radio Cymru, a fydd yn gyfle i’r cerddorion ifanc gael cyngor a chymorth gan rai sy’n amlwg ac sydd â phrofiad o weithio yn y Sîn.  Bydd y rowndiau cynharach yn cael eu cynnal yn ystod gigs mewn gwahanol rannau o Gymru, a chyhoeddir manylion y rhain cyn bo hir.

 

Sut i Gymryd Rhan?

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 16 Mawrth, a chynhelir rowndiau rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru yn ystod Ebrill a Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, nos Fawrth 4 Awst.  Gellir cofrestru drwy wefan Maes B – www.maesb.com – a dyma lle y ceir yr amodau a’r rheolau i gyd hefyd ar gyfer y gystadleuaeth.  Mae’r gystadleuaeth yn agored i’r rheini rhwng 16 a 25 oed.