Mae’r flwyddyn newydd yn gyfnod cyffrous iawn, gyda nifer yn dymuno blwyddyn lewyrchus arall neu flwyddyn well na’r un a fu i’w cymdogion a’u cyfeillion, ac yng Nghymru mae gennym draddodiadau unigryw eraill i nodi’r achlysur.

Un o’r arferion hynod hynny yw’r Fari Lwyd.

Mae’r Fari Lwyd yn arferiad hynafol sydd â’i wreiddiau mewn arferion eraill o’r cyfnod cyn-Gristnogol.

Penglog ceffyl wedi’i orchuddio â lliain a rhubanau oedd y Fari. Byddai’r benglog yn cael ei roi ar bolyn fel bod modd i’r person oedd o dan y lliain agor a chau’r genau.

Byddai grŵp o ddynion yn mynd gyda’r Fari ac fe fydden nhw’n ymweld â phob tŷ yn yr ardal gan adrodd pennill yn gofyn am wahoddiad i’r ty.

“Wel dyma ni’n dwad
Gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad i ganu.”

Byddai’n anlwcus gwrthod mynediad i’r Fari Lwyd. Yn y tŷ byddai’r grŵp yn diddanu’r teulu ac yn derbyn bwyd a diod yn gyfnewid am hynny.

Traddodiad sydd â’u gwreiddiau ychydig yn gadarnach yng Nghymru na’r Fari Lwyd yw Canu Calennig.

Mae’n arferiad mewn nifer o ardaloedd i blant fynd o amgylch yn gynnar ar fore Calan, i ganu ac i dderbyn arian neu anrheg. Mae’n rhaid gwneud hyn cyn 12 o’r gloch ar ddiwrnod Calan os am sicrhau lwc dda yn y flwyddyn newydd.

Mae gan nifer o ardaloedd benillion gwahanol. Beth am annog dy blentyn neu blentyn cyfaill neu deulu, i fynd ati i ganu Calennig eleni? Dyma enghraifft o bennill Calennig o Ddyffryn Aman y gelli ddefnyddio:

“Blwyddyn Newydd dda i chi,
Ac i bawb sydd yn y tŷ,
Dyna yw’n dymuniad ni,
A blwyddyn newydd dda,

Blwyddyn Newydd dda i chi,
Gwenu’n llawen, dyma’r flwyddyn wedi dod,
Y flwyddyn orau fu erioed,
O dyma hyfryd flwyddyn,
O dyma hyfryd flwyddyn,
O dyma hyfryd flwyddyn,
Y flwyddyn newydd dda”

Cofia rannu dy benillion Calennig â ni!

Gan ddymuno Blwyddyn Newydd dda i bawb.