Mae cyfres o apiau gan Fenter Iaith sydd wedi ennill gwobrau i helpu teuluoedd i ddysgu Cymraeg erbyn hyn yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cernyweg.

Cafodd apiau Cymraeg Magi Ann a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol eu lansio yn 2016 gyda’r bwriad o helpu plant ifanc a’u teuluoedd i ddysgu Cymraeg.  Yr apiau, a ddyfeisiwyd gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam, yw’r ysbrydoliaeth y tu cefn i fersiwn gyfatebol newydd y Gernyweg a lansiwyd yn Truro, Cernyw ar 31 Ionawr, 2019.

Mae’r un enw gan y fersiwn Gernyweg â’i chefnder Celtaidd ac mae’n cynnwys 12 o storïau syml i helpu’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr y Gernyweg. Mae’r dadorchuddio yng Nghernyw yn ffurfio rhan o lansiad ehangach ‘Go Cornish’<https://gocornish.org/>, adnodd ar-lein newydd gan Golden Tree Productions i addysgu a dysgu’r iaith Gernyweg. Bydd y tîm sydd y tu cefn i’r fersiwn Gymraeg o Fenter Iaith Fflint a Wrecsam yn ymuno yn y dathliadau yng Nghernyw, fel y bydd prif gymeriad yr ap sef Magi Ann.

Derbyniodd yr ap Cymraeg, sy’n dathlu llwyddiant ysgubol y mis hwn hefyd wrth gael ei lawr lwytho dros chwarter miliwn o weithiau, y bleidlais fel Prosiect Addysg Gorau’r DU yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017 – yr ymgyrch flynyddol i ddod o hyd i hoff achosion da’r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Mae ap Cymraeg Magi Ann wedi cael ei lawrlwytho mewn gwledydd cyn belled ag America, yr Ariannin, Tsieina a Japan. Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi derbyn mynegiadau o ddiddordeb hefyd oddi wrth grwpiau ieithoedd lleiafrifol eraill led led Ewrop sy’n edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu apiau Magi Ann tebyg.

Dywed Rhian Davies, y Swyddog Cyfathrebu ar ran Menter Iaith Fflint a Wrecsam;

“Yn ystod y Gwobrau [Gwobrau’r Loteri Genedlaethol], daethom i adnabod Wil Coleman, crëwr y Man Engine a’i dîm o Golden Tree Productions a oedd y tu cefn i’r prosiect. Roedden ni’n cyd-dynnu’n dda ac esboniodd Will ei fod yn siarad y Gernyweg. Wedi’r Gwobrau, ac fel y byddwch yn ei wneud fel cyd-Geltiaid, roeddem oll i fyny yn hwyr yn dawnsio a chanu caneuon gyda’n gilydd yn y Gymraeg a’r Gernyweg. Daethom i’r sylweddoliad fod llawer gennym yn gyffredin a dyna pryd y gwnaeth y syniad o greu ap Magi Ann Kernewek (Cernyweg) ddwyn ffrwyth. Datblygodd pethau’n gyflym o’r fan honno ac rydym wedi cael mynegiadau o ddiddordeb ers hynny o fannau eraill yn Ewrop megis Llydaw yng ngogledd Ffrainc am ddatblygu fersiwn yr iaith Lydaweg o’r ap.  Does dim pen draw o ran pa mor bell y gall Magi Ann ysbrydoli pobl i gynnal a diogelu ieithoedd lleiafrifol.”

Dywed Will Coleman, Cyfarwyddwr Artistig ar ran Golden Tree Productions;

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Magi Ann i greu’r ap Magi Ann Kernewek, ar gyfer addysgu plant cyn-oed ysgol, plant meithrin a theuluoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Loteri Genedlaethol am wneud y berthynas hon yn bosibl, ac mae’r ap hwn, ynghyd â gwefan newydd Go Cornish (gocornish.org), eisoes yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yr iaith Gernyweg.” 

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn un o rwydwaith o 22 menter iaith sy’n gweithio i gryfhau ac atgyfnerthu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau led led Cymru.
Dywedodd Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Rydym yn falch iawn i weld yr ap a gynhyrchwyd gan y Fenter Iaith leol yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio i hyrwyddo iaith leiafrifol arall. Mae llwyddiant apiau Magi Ann yn arddangos pŵer technoleg wrth ddatblygu dwyieithrwydd yn y cartref. Mae hefyd yn cydnabod gwaith caled y Fenter Iaith trwy ddynodi angen o fewn y gymuned leol. Mae cydnabod ac ateb anghenion cymunedau yn tanategu gwaith y mentrau iaith lleol wrth gynyddu ac atgyfnerthu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau.” 

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru;

“Trwy gefnogi datblygu ap Magi Ann, mae arian y Loteri Genedlaethol wedi galluogi rhieni a phlant yng Nghymru ac ymhellach draw i fwynhau dysgu Cymraeg gyda’i gilydd. Mae’n wych gweld fod y prosiect hwn sydd wedi ennill gwobr yn cefnogi ieithoedd lleiafrifol eraill yn awr ac yn ysbrydoli’r genedlaethol nesaf o siaradwyr y Gernyweg. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft ragorol o sut y gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth wirioneddol fawr.”

Mae apiau Magi Ann yn y Gernyweg a’r Gymraeg ar gael i’w lawrlwytho trwy’r dolenni isod:

Y Gymraeg

App Store – https://itunes.apple.com/us/ap/llyfrau-bach-magi-ann/id936035789

Google Play – https://play.google.com/store/apps/details?id=com.sbectol.magiann.build

Y Gernyweg

App Store – https://itunes.apple.com/app/id1402071440

Google Play – https://play.google.com/store/apps/details?id=com.sbectol.lyvrigowmagiann