Mae Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg, prosiect a dyfodd o waith Menter Iaith Conwy a gwirfoddolwyr lleol wedi agor yn swyddogol.

Daeth y Prif Weinidog Carwyn Jones, i agor Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg, Cyffordd Llandudno yn swyddogol ar y 4ydd o Chwefror.

Nia Owen, Rhiant Gyfarwyddwr y prosiect, oedd yn llywio’r gweithgareddau a chafwyd cyfraniadau gan Meirion Davies o Fenter Iaith Conwy, a Gwyn Roberts, Cadeirydd Derwen Deg yn cyflwyno gwaith celf o waith y plant i Carwyn Jones.

Daeth y syniad i’r fei yn ystod mis Awst 2013 pan gysylltodd Nia Owen, rhiant lleol â Menter Iaith Conwy i drafod ei bwriad i agor meithrinfa Gymraeg yng Nghyffordd Llandudno gyda lIeoliad mewn golwg a daeth i ddeall bod y Fenter hefyd wedi bod yn ymchwilio i’r posibilrwydd.

Ym mis Mai 2014 fe wnaeth rhieni lleol a Menter laith Conwy ffurfio Cwmni Cydweithredol Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg i arwain ar y prosiect, sydd bellach yn golygu bod Meithrinfa newydd ar gael.

Dywedodd Carwyn Jones:

“Rwy’n falch iawn bod Menter Iaith Conwy mor ragweithiol wrth helpu’r gymuned i sefydlu meithrinfa cyfrwng Cymraeg ar arfordir Conwy.

“Mae annog teuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn elfen bwysig o’r gwaith o gynnal a chynyddu’r defnydd o’r iaith, ac mae meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn allweddol yn hyn o beth.

“Mae wedi bod yn dda gweld cefnogaeth y bobl leol i’r cyfleuster newydd hwn, gan gadarnhau bod angen amdano yn lleol.”

I ddarllen mwy am y digwyddiad ewch i wefan Golwg360.

Os hoffech wybod mwy am waith y feithrinfa neu gofrestru eich plentyn cysylltwch â Nia Owen