Mae 45 o sefydliadau cymunedol dros Gymru wedi derbyn grant er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn eu hardaloedd diolch i’r arian a godwyd yn Ras yr Iaith yn 2016.

Cafodd ail Ras yr Iaith ei chynnal rhwng 6 – 8 Gorffennaf 2016 gan godi dros £14,000 er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau. Buodd cannoedd o bobl yn rhedeg drwy 25 tref a phentref rhwng Bangor a Llandeilo gan uno’n gwlad gyda Baton yr Iaith.

Yn codi proffil a hyder yr iaith Gymraeg, hyrwyddo iechyd corfforol a chryfhau ein cymunedau, mae Ras yr Iaith yn cael ei chynnal pob dwy flynedd. Yn ychwanegol i godi proffil yr iaith drwy gynnal ras o’r fath, mae Ras yr Iaith yn rhannu unrhyw elw a wnaed ar ffurf grantiau hyd at £750 i grwpiau neu fentrau sy’n hybu neu ddefnyddio’r iaith.

Dywed Owain Gruffydd, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru a oedd yn rhoi cefnogaeth ymarferol i Ras yr Iaith;

“Roeddem yn falch iawn fel Mentrau Iaith Cymru i gefnogi a threfnu Ras yr Iaith ac yn hapus nawr o allu rhannu’r holl arian yma i grwpiau a mudiadau dros Gymru. O wyliau a digwyddiadau i glybiau chwaraeon a chorau – mae pob math o grwpiau wedi gallu elwa o’r ras a gobeithiwn yn fawr bydd yr arian yma yn eu helpu i gryfhau a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau.”

Dywed Siôn Jobbins, un o sylfaenwyr y ras;

“Roedd Ras yr Iaith yn gyfle i bobl ddangos eu bod yn cefnogi’r Gymraeg. Cawsom ein hysbrydoli gan rasys tebyg yng Ngwlad y Basg, Llydaw ac Iwerddon ac mae’n braf gweld bod Ras yr Iaith wedi gallu digwydd am yr ail dro yn 2016 a bod 45 grŵp wedi elwa ohoni.”

 

Y mudiadau i dderbyn grantiau fesul ardal Ras yr Iaith:

 

Ardal Diwrnod 1 (Gwynedd a Sir Conwy):

Menter Iaith Bangor

Dawns i Bawb

Partneriaeth Ogwen

Corwst

Ymgyrch Llanrwst

Y Dref Werdd

Ysgol y Moelwyn

Clwb Rygbi Merched y Bala

Urdd Meirionydd

Sesiwn Fawr Dolgellau

Cylch Meithrin Dysynni

 

Ardal Diwrnod 2 (Ceredigion):

Cwmni Theatr Arad Goch

Dolen Teifi Llandysul

Eisteddfod Castell Newydd Emlyn a’r Cylch

Theatr Troedyrhiw Llanbed

Cylch Meithrin Talybont

Fforwm Ieuenctid Ceredigion

Cylch Meithrin Aberystwyth

Geidiaid Aberteifi

Merched y Wawr Castell Newydd Emlyn

Clwb Hoci Llandysul

Clwb Ffermwyr Ifanc Trefgaron

Cantorion Aberystwyth

Ysgol Gyfun Aberaeron

Gŵyl y Cynhaeaf

Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid

TregaRoc

Eisteddofd Tregaron

Merched y Wawr Mynach

Gŵyl Nol a Mlan

Cylch Meithrin Felinfach

 

Ardal Diwrnod 3 (Sir Benfro a Sir Gâr):

Cylch Meithrin Dinbych y Pysgod

Merched y Wawr Ffynonygroes

Eisteddfod Crymych

Gŵyl y Gwter Fawr Rhydaman

Dawnswyr Penrhyd Rhydaman

Ysgol Dyffryn Aman

Cylch Meithrin Llanybydder

Pwyllgor Shwmae Sir Benfro

Clwb Ieuenctid Glanaman

Urdd Port Talbot

Gŵyl Hanes i Blant

Ysgol Bro Ingli

Ysgol y Preseli

Cylch Meithrin Drefach Felindre