Mae Mentrau Iaith Sir Gâr yn cyflwyno sioe newydd sbon i deuluoedd y Nadolig yma – a’r cyfan ar-lein i bawb i fwynhau!

Mae ‘Nadolig Beeeendigedig’ yn sioe Nadolig cyffrous sydd wedi ei greu yn arbennig ar gyfer Mentrau Iaith Sir Gâr gan Martyn Geraint. Gan nad oedd modd cynnal pantos a sioeau byw eleni, penderfynodd y Mentrau fod angen darparu rhywbeth i deuluoedd fwynhau dros y Nadolig, a dod a thamaid o hud a lledrith i gartrefi ar draws y Sir. Bydd y diddanwr poblogaidd yn dathlu’r ŵyl gyda’i ffrindiau – Meilyr a Siani Sionc, mewn sioe llawn canu a dawnsio.

Bydd y sioe ar gael i wylio ar-lein unrhyw adeg rhwng 19-31 Rhagfyr ond bydd angen i bawb gofrestru ymlaen llaw i wylio. Mae croeso i unrhyw un ymuno yn yr hwyl drwy gofrestru ar Tocyn.cymru, neu drwy gysylltu gyda Menter Dinefwr, Menter Gorllewin Sir Gâr, neu Fenter Cwm Gwendraeth Elli.

Cyllidir y prosiect yma yn rhannol drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.