I ddathlu’r cyfoeth o gerddoriaeth Gymraeg ar 9 Chwefror, bydd y Mentrau Iaith yn arddangos arwyr tawel y sin gerddoriaeth Gymraeg, o artistiaid ifanc a threfnwyr gigs i DJs ysgol.

Mae Mentrau Iaith Cymru, sefydliad ymbarél sy’n cefnogi’r 22 Menter Iaith yng Nghymru am ddathlu nid yn unig y cerddorion a’r artistiaid ar frig y pentwr, ond y rheiny sy’n asgwrn cefn i’r sin yn ein cymunedau.

Meddai Marged Rhys, Swyddog Datblygu ym Mentrau Iaith Cymru;

“Mae yna gyfoeth o gerddoriaeth Gymraeg allan yna, i gystadlu ag unrhyw sin gerddoriaeth mewn unrhyw iaith arall, ond mae’r llwyddiannau’n digwydd diolch i waith caled pobl mewn cymunedau lleol sy’n trefnu gigs, yn cynnal gweithdai ysgrifennu caneuon i bobl ifanc, neu’n gwirfoddoli gyda radio lleol. Mae’r Mentrau Iaith yn cyfrannu’n fawr i’r sin gerddoriaeth Gymraeg trwy drefnu digwyddiadau a rhedeg prosiectau fel y rhain. Yr wythnos hon, i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg, rydym yn amlygu dim ond ychydig o’r gwahanol ffyrdd y mae’r Mentrau Iaith wedi cefnogi’r sin gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, gydag esiampl wahanol ar ein gwefan bob dydd.”

Un sydd wedi elwa o waith y Mentrau Iaith yw Ethan Williams o Beddau. Mynychodd Ethan, 17, weithdai cerdd gyda’r cynhyrchydd a pherfformiwr adnabyddus, Mei Gwynedd, a drefnwyd gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf. Dywed Ethan;

“Rydw i wedi bod yn chwarae’r piano a’r gitâr ers tro ond nid oeddwn fyth ddigon hyderus i ysgrifennu caneuon fy hun a pherfformio nhw. Drwy’r gweithdai gyda Mei Gwynedd dysgais lawer a ‘dw i wedi ffurfio band gyda fy ffrindiau. Rydyn ni’n mwynhau chwarae cerddoriaeth gyda’n gilydd ac ysgrifennu ein caneuon ein hunain. “

Yn ôl Ethan, mae’r Fenter Iaith leol yn cefnogi’r sin gerddoriaeth Gymraeg mewn sawl ffordd. Mae’n dweud;

“Mae’n wych bod Menter RhCT yn trefnu gigs i blant dan 18 oed, gweithdai cerddoriaeth, ‘disgo distaw’ a gŵyl Parti Ponty ym Mhontypridd sy’n llwyfannu artistiaid Cymraeg gwych fel Geraint Jarman a Chroma – i gyd yn codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg.”

Yn ddiweddar, mae Menter Rhondda Cynon Taf hefyd wedi dechrau cynnal sioe radio gyda GTFM bob Nos Sul rhwng 8-10pm. Mae Gwyndaf Lewis, sy’n gweithio i’r Fenter Iaith ac yn cyflwyno’r sioe, yn dweud;

“Mae GTFM yn radio digidol poblogaidd iawn yn yr ardal leol a chredwn y byddai’n llwyfan gwych i arddangos cerddoriaeth Gymraeg. Roedd y radio yn gefnogol iawn o gael sioe Gymraeg ac rydyn ni’n hynod o falch eu bod wedi cynnig y llwyfan hwn i ni ddangos i wrandawyr fod mwy o gerddoriaeth Gymraeg na chorau meibion! “

Gwyndaf Lewis yn recordio rhaglen Gymraeg i GTFM

Gwyndaf Lewis yn recordio rhaglen Gymraeg i GTFM