Ar 5 Chwefror 2021, bydd Cymru a’r byd yn dathlu’r chweched Dydd Miwsig Cymru, a bydd amrywiaeth o ddeunyddiau ar gael – o restrau chwarae i nodiadau sy’n esbonio geiriau caneuon – i helpu rhieni a neiniau a theidiau i ddysgu Cymraeg gyda’u plant drwy fiwsig. 

Nod Dydd Miwsig Cymru yw ysbrydoli pobl sydd ddim yn siarad yr iaith i gofleidio’r sîn fywiog o fiwsig Cymraeg, ac ysbrydoli’r rhai sy’n ei siarad i ddarganfod mwy o’r miwsig anhygoel sydd ganddyn ni yn Gymraeg. 

Tiwns y Ty 

Pa gerddoriaeth Gymraeg sy’n chwarae yn yr ystafell fyw, y gegin, y car? Beth yw bwgi’r brawd, neu melodi Mamgu? Rydym eisiau gwybod beth yw hoff ganeuon Cymraeg y teulu. Mae rhestrau chwarae diri ar https://llyw.cymru/dydd-miwsig-cymru  

Dyma rai adnoddau gall eich helpu: (fersiwn pdf sy’n cynnwys dolenni)  Pecyn DMC

Ysgol Hip Hop 

Mae’r Ysgol Hip Hop yn ffordd hwyliog a gwerth chweil i rieni a neiniau a theidiau ymuno â’u plant ar eu taith o ddysgu’r iaith, ac yn weithgaredd creadigol ac addysgiadol i’w wneud gartre a fydd yn ffordd o gadw’r plant yn ddiddan yn ogystal â chynorthwyo’u haddysg.  

Mae’r gystadleuaeth yn gofyn i blant oed cynradd ysgrifennu pennill cân rap gyda rhiant, gwarcheidwad neu nain a taid ac ymarfer y rap yn ystod cyfnod gwersi gartre. Thema’r gystadleuaeth a’r rap yw ‘Beth mae’r iaith yn feddwl i ti a dy ardal‘, sy’n cysylltu ag uchelgais polisi Llywodraeth Cymru i weld y Gymraeg yn ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Mae Dydd Miwsig Cymru wedi paratoi pecyn cymorth ar-lein i helpu disgyblion i greu rap, sy’n cynnwys fideos a chytgan enghreifftiol gan y bît-bocsiwr, y rapiwr a’r cynhyrchydd enwog, Mr Phormula. Bydd y disgybl buddugol yn ennill gwobr o £250 ar gyfer eu hysgol i wario ar adnoddau addysg, a bydd y rap yn cael ei chwarae ar raglen deledu Stwnsh Sadwrn ar S4C. Bydd angen i bob disgybl berfformio a recordio’u cân rap ar ffôn glyfar a’i hanfon dros e-bost i Dydd Miwsig Cymru cyn dydd Gwener 29 Ionawr 2021 i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.