Cyflwyno Heledd a Marged

Heledd a Marged sydd wedi ymuno ag Iwan Hywel i greu tîm Mentrau Iaith Cymru. Mae Marged yn rhannu swyddfa gydag Iwan yn Llanrwst, Sir Conwy a Heledd mewn swyddfa yng Nghanolfan Gymraeg Yr Atom, Caerfyrddin, Sir Gâr. Dechreuodd Heledd ddiwedd mis Chwefror, 2017 a Marged bythefnos yn ddiweddarach.

Heledd ap Gwynfor

Daw Heledd yn wreiddiol o Ddyffryn Tywi yn sir Gaerfyrddin, cafodd ei haddysg cynradd yn Nhal y Bont ger Aberystwyth ac yng Nghwmann, Llambed, a’i haddysg uwch yn ysgolion Dyffryn Teifi, Gŵyr ac Ystalyfera. Bu’n athrawes Saesneg am ddwy flynedd yn Tsieina gyda mudiad y VSO, gan weithio ar Brosiect y Papurau Bro gydag Antur Teifi wedi dychwelyd i Gymru, ac yn fwyaf diweddar bu’n rhedeg cwmni Tro’r Trai yn Nhresaith, Ceredigion, gan redeg siop glan môr a llety gwyliau yn Nhresaith a Dinbych y pysgod, sir Benfro. Mae Heledd yn byw yn nhref Caerfyrddin gyda’i gŵr Rhys, a’u mab, Meredydd Prys.

Marged Rhys

Mae Marged wedi dychwelyd i’w bro enedigol yng Nghaernarfon ar ôl cyfnod yn gweithio i gwmni cyfathrebu Mela yng Nghaerdydd am ddwy flynedd ac ym Mhrifysgol dros y bont ym Mryste cyn hynny yn astudio Cerddoriaeth. Bydd rhai o gynulleidfa’r Mentrau yn ei hadnabod fel aelod o’r band Plu sydd wedi bod yn diddanu mewn amryw i ŵyl dros y pedair blynedd diwethaf. Mae hi hefyd yn brysur iawn yn chwarae hoci gyda Chlwb Hoci Merched Caernarfon, yn rhan o bwyllgor cyfathrebu Gŵyl Fwyd Caernarfon ac yn Olygydd yr Ifanc i’w phapur bro leol, Eco’r Wyddfa.