Mae amrywiaeth ieithyddol yn un o brif nodweddion Ewrop, ond nid yw’r cydbwysedd rhwng ieithoedd wedi bod yn gytbwys bob tro, ac mewn gwahanol ardaloedd a gwledydd, mae ieithoedd lleol wedi dod yn lleiafrifol fregus neu mewn perygl o gael eu colli’n llwyr.

Mae HitzargiakLanguages Illuminating each other yn brosiect sy’n dod ag arferion da hyrwyddo a chynnal ieithoedd Ewrop at ei gilydd a’u harddangos i’r byd, yn ogystal â chysylltu mudiadau a sefydliadau sy’n gweithio i adfywio ieithoedd â’i gilydd.

Ganol mis Mehefin cynhaliwyd cynhadledd Hitzargiak yn Donostia / San Sebastian. Dyma  hefyd Brifddinas Diwylliant Ewrop 2016.

Gwahoddwyd Helen Thomas, Prif Swyddog Iaith Menter Iaith Môn i’r gynhadledd arbennig hon er mwyn rhannu gwybodaeth am waith y Mentrau Iaith yng Nghymru. Rhoddwyd ffocws penodol ar waith y Fenter Iaith ym Môn o fewn y maes plant a phobl ifanc, a thrwy ddarpariaeth Theatr Ieuenctid Môn yn benodol fel un o’u prosiectau cymunedol.

Dywedodd Helen:

“Dyma gyfle gwych i ni wrth godi proffil yr holl waith rydym ni fel Mentrau Iaith yn ei wneud  – ar lefel cenedlaethol a hefyd ein gwaith ar lefel leol.

“Mae sawl effaith gadarnhaol wedi bod wrth i ni rannu gwybodaeth am arferion da yn y gynhadledd hon, gan glywed am brofiadau a dysgu gan eraill, a meithrin syniadau ein gilydd gyda’r bwriad o fedru cydweithio ar fentrau a syniadau sydd â photensial i atgyfnerthu llwyddiant ein gwaith.”

“Mae gwaith y Mentrau Iaith yn unigryw – ac mae hynny i’w ddathlu. Mae nifer o gysylltiadau gwerthfawr wedi eu creu a byddwn ni yn mynd ati i sicrhau ein bod ni’n medru tynnu ar wybodaeth a phrofiadau pobl eraill er mwyn cyfoethogi ymhellach y profiadau rydan ni yn eu cynnig ar lawr gwlad, ac yn benodol ar gyfer ein cymunedau ni.”

Ewch i wefan Menter Iaith Môn am fwy  o wybodaeth ynghylch gwaith y fenter yn lleol i hyrwyddo’r Gymraeg.