Fel rhan o’r ymdrech gynyddol i gofnodi enwau lleoedd Cymraeg ar y Wicipedia, mae Menter Iaith Môn yn cychwyn prosiect cyffrous i ddiogelu enwau traethau ag afonydd yr Ynys er mwyn iddynt gael eu cadw ar gof, am byth, yn ogystal â’u croesawu i ddefnydd newydd, digidol.

Fel y Gymraeg, mae’r traethau yn drysor i’r Ynys, ac i nifer o ymwelwyr yr Ynys hefyd.  Mae’n bwysig felly ein bod ni’n cyflwyno’r enwau Cymraeg i’r ymwelwyr, a bod yr ynganiad ar gael i’w dysgu ar y we.
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017 lansiwyd cynllun WiciMôn, a gosodwyd her i recordio lleisiau pobl o bob cwr o Gymru yn ynganu eu pentrefi genedigol yn eu hacenion eu hunain. Casglwyd y data er mwyn cael ei roi ar y gwyddoniadur agored Wicipedia a’u bwydo i mewn i’r erthyglau perthnasol.

Defnyddiwyd y data hwn, yn ystod y Clo Mawr, gan Dafydd Elfryn i greu map rhyngweithiol o Gymru yn amlygu’r enwau hyn.Awm

“Pan ddes i ar draws y casgliad recordiau yma ar Wicipedia, nes i feddwl yn syth bysa trosi’r enwau llefydd yn fap rhyngweithiol yn gwneud prosiect bach diddorol.  Gan gyfuno’r enwau hefo data Agored gan yr Ordnance Survey, mi nes i fapio enwau Môn a Gwynedd yn gyntaf. Ar ôl rhannu’r map ar Twitter a Facebook, daeth sawl sylw yn canmol y data llais, ac yn dweud pa mor ddefnyddiol oedd o. Mi wnaeth hynna fy sbarduno i fapio gweddill y lleisiau er mwyn llenwi’r map.  Mae’r ymateb wedi bod yn grêt, gyda phobl Cymraeg, dysgwyr a phobl ddi-gymraeg, yn diddori mewn clywed sut mae llefydd i fod i swnio.”

Mae WiciMôn eich angen chi eto, drwy ofyn am gyfraniadau trigolion lleol i recordio enwau’r traethau ac afonydd, er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn hygyrch i bawb.

Esboniodd Nia Thomas, Prif Swyddog Menter Iaith Môn:

“Gyda mwyfwy o bobl yn dewis treulio’u gwyliau ym Mhrydain, rydym yn ymwybodol iawn fod traethau’r Ynys yn cynnig noddfa i sawl un sy’n dymuno cael ’chydig ddyddiau i ffwrdd.  Heddiw, drwy ddylanwad trwm y cyfryngau cymdeithasol, mae’r enwau Saesneg yn cael eu poblogeiddio ar y traethau hyn, Silver Bay, Cable Bay, Newborough Beach i enwi rhai.  Drwy gofnodi’r enwau Cymraeg yn ddigidol, rydym yn gwneud y Gymraeg yn fwy hygyrch i’n hymwelwyr, ac mae’n gam ymarferol allwn ni fel siaradwyr Cymraeg ei wneud i annog y defnydd o’r enwau hyn.”

Gall y cyhoedd gyfrannu drwy ddilyn fideo tiwtorial gan WiciMôn isod. Mae’r fideo yn egluro sut i lwytho’r recordiau ymlaen yn ddigidol, felly mae croeso i bawb ymuno ar y daith o wneud y Gymraeg yn hygyrch i bawb.

Cysylltwch ag Aaron Morris, Swyddog WiciMôn gyda Menter Iaith Môn, aaronm@mentermon.com am ragor o wybodaeth.