PLEIDLEISIWCH DROS MAGI ANN!

Mae Magi Ann wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Loteri Cenedlaethol 2017.

Meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, y byddai ennill Gwobr Loteri Genedlaethol a chael sylw cenedlaethol i’n gwaith yn anrhydedd:

“Rydym wedi gwirioni i glywed ein bod wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Loteri Cenedlaethol, allan o 1,300 o enwebiadau – mae’n newyddion bendigedig, ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith pwysig yma.”

Ychwanegodd: “ Mae’r apiau yn adnodd gwych i blant sy’n dysgu darllen Cymraeg, boed hwnnw’n famiaith neu’n ail-iaith. Rydym wedi syfrdanu gyda llwyddiant Magi Ann. Ers lansio’r ap gyntaf yn Nhachwedd 2014, mae’r ffaith fod dros 92,000 o lawr-lwythiadau wedi bod yn dangos fod gwir angen adnoddau fel hyn ar deuluoedd ac ysgolion yng Nghymru. Gwyddom hefyd am deuluoedd ar draws y byd sy’n mwynhau dysgu darllen Cymraeg gyda Magi Ann, o Japan i Batagonia ac o America i Sweden!”

O ganlyniad i lwyddiant a phoblogrwydd apiau Magi Ann, mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru wedi mabwysiadu Magi Ann fel seren genedlaethol er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y cartref ac yn yr ysgol.

Meddai Marged Rhys ar ran Mentrau Iaith Cymru: “Mae Magi Ann bellach wedi gwneud ymddangosiadau mewn gwyliau a digwyddiadau ar hyd ac ar led y wlad, o Gaergybi i’r Fflint ac o’r Feni i Ben-y-bont ar Ogwr! Cysylltwch gyda’ch Menter Iaith leol am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Magi Ann yn eich ardal chi. Mae’n hawdd iawn i bleidleisio, ac rydym yn gobeithio denu cefnogaeth genedlaethol i ymgyrch Magi Ann, er mwyn cydnabod y gwaith pwysig ac arloesol yma. Am ffordd wych o hyrwyddo’r Gymraeg a manteision dwyieithrwydd ar draws gwledydd Prydain. Pob lwc Magi Ann.”

Mae 6 ap Magi Ann ar gael AM DDIM i helpu plant i ddysgu darllen yn y Gymraeg, gyda dros 50 o straeon syml a gemau difyr.

Dyma adnodd gwych i deuluoedd ac ysgolion i ddysgu darllen mewn modd hwyliog a rhyngweithiol. Mae’r apiau yn gymorth i oedolion sydd ddim yn siarad Cymraeg neu sy’n dysgu Cymraeg, gan fod modd tapio ar bob gair i glywed sut i’w ynganu ac i weld cyfieithiad.

Felly beth amdani, a wnewch chi gynnig un bleidlais arall i Magi Ann?

Mae yna ddwy ffordd i bleidleisio:

Ffoniwch 0844 836 9680 i bleidleisio dros y ffôn, neu ewch i www.achosiondayloteri.org.uk i bleidleisio ar-lein.

Bydd modd pleidleisio rhwng dydd Iau, Mehefin 29ain a hanner nos ar y 27ain o Orffennaf.

Pleidleisiwch dros Magi Ann!

Magi Ann