Ar ddydd Mercher, 31ain o Fai 2017, lansiwyd Llyfryn Enwau Lleoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar faes yr Eisteddfod ym Mhencoed.

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal ddiwethaf ar yr un man yn 1991 ac yn dilyn yr Eisteddfod honno ym Mhencoed, daeth criw o wirfoddolwyr at ei gilydd a sefydlu dwy fenter yn lleol, Menter Bro Ogwr a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.

Roedd Menter Bro Ogwr yn benderfynol o sicrhau bod prosiect cyffrous a chofiadwy ar gyfer y sir a’r iaith Gymraeg yn digwydd eleni felly aeth y fenter ati i ddatblygu’r Llyfryn Enwau Lleoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nod y prosiect oedd gweithio ar draws y sir wledig gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion i ddatblygu llyfryn ar hanes a threftadaeth Pen-y-bont ar Ogwr drwy enwau llefydd.

 

Enwau Lleoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig – rhaglen a gyllidwyd gan Ewrop i gynorthwyo pobl sy’n byw neu’n gweithio mewn ardaloedd gwledig – sydd wedi galluogi’r fenter i weithredu’r cynllun. Trwy gynlluniau cenedlaethol a lleol mae’n darparu cyllid a chymorth i gymunedau ffermio, busnesau, sefydliadau cymunedol a grwpiau lleol mewn ardaloedd gwledig.

Croesawyd Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC Prif Weinidog Cymru i’r stondin ar ddydd Gwener i gyflwyno iddo’n ffurfiol ei lyfr poced ei hun.

Mae’r prosiect wedi rhoi’r cyfle i ni weithio mewn partneriaeth o fewn cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda’r bobl leol i ddysgu am dreftadaeth leol. Cynhaliwyd sesiynau ymgynghori er mwyn cael mewnbwn grwpiau lleol i ddyluniad a chynnwys y llyfryn. Trwy gyfranogi, mae’r trigolion wedi cymryd perchnogaeth o’r prosiect ac mewn effaith wedi rhoi hwb i’r Gymraeg ar draws y sir.

Mae diolch i gynllun Reach am ariannu’r cynllun ac i Gwmni2 am weithio mewn partneriaeth â’r fenter er mwyn sicrhau bod y prosiect yma’n bosib.