Wedi llwyddiant apiau lleddfu straen megis Headspace a Calm, mae Menter Iaith Abertawe yn lansio ap lles cwbl Gymraeg newydd ar Ebrill 27, 2018.

Wrth i gymdeithas roi mwy a mwy o sylw i ymwybyddiaeth o les ac iechyd meddwl, mae apiau sy’n cynnig technegau a negeseuon i leddfu’r straen wedi dod yn gynyddol boblogaidd.

Wedi’i gyllido gan Grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, mae’r ap o’r enw ‘Cwtsh’ yn arwain defnyddwyr drwy dair sesiwn myfyrio (bore, yn ystod y dydd a chyda’r hwyr) yn Gymraeg.

Bydd Cwtsh hefyd yn cynnwys cyfeiriadur cenedlaethol ar gyfer sesiynau myfyrdod a dosbarthiadau ioga yn yr iaith Gymraeg o’r enw’r Llyfr Lles.

Mae gwahoddiad i unrhyw un fynychu’r lansiad, os ydych yn gweithio yn y sector lles yng Nghymru, yn athro neu athrawes lles neu hyd yn oed os ydych a diddordeb i ddatblygu eich taith personol chi o ddod i adnabod eich hun bach yn well.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Menter Iaith Abertawe.

image005