SWYDD – Cydlynydd Gwasanaethau Iaith – Sector Awyr Agored Menter Brycheiniog a Maesyfed

Mae Menter Brycheiniog a Maesyfed am benodi unigolyn egniol i weithio ar brosiect i brif ffrydio’r iaith Gymraeg i’r sector Awyr Agored yn ardal De Powys.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n agos gyda’r Fenter, ysgolion a grwpiau eraill i gynnig gweithgareddau awyr agored o safon drwy gyfrwng y Gymraeg. Mwy o fanylion yn y swydd ddisgrifiad.
Cyflog: Graddfa 5 (Pwynt 18 i Bwynt 20) £18,070 i £19,430 y flwyddyn
Oriau: 37 awr yr wythnos, cyfnod penodol tan 31/08/19
Lleoliad: Neuadd Maescar, Pontsenni
Dyddiad Cau: 03/07/17
I wneud cais ewch i wefan www.powys.gov.uk
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Bethan Price, Cydlynydd y Fenter ar
bethan.jones1@powys.gov.uk / 07776296267