Hysbyseb Swydd: Swyddogion Datblygu Cymraeg Byd Busnes x10

Swyddog Datblygu Cymraeg Byd Busnes (x10)
Cyflog: £23,166- £25,694 flwyddyn (37 awr yr wythnos)
Cytundeb: Tan 31 Gorffennaf 2018 yn y lle cyntaf gyda’r gobaith o ymestyn yn ddibynnol ar gyllid. Y swydd i ddechrau mor fuan a phosib.
Lleoliad: Posibilrwydd o weithio yn swyddfeydd amryw o Fentrau Iaith ar draws Cymru, yn ddibynnol ar leoliad yr ymgeisydd llwyddiannus.
A hoffech weithio i brosiect newydd cyffrous gydag un o’r prif fudiadau sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar hyd a lled Cymru?
Rydym yn chwilio am 10 unigolyn hyblyg, brwdfrydig a hyderus sydd yn gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â’r gwaith o ddylanwadu a pherswadio busnesau sector breifat maint bach a chanolig i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.
Am wybodaeth bellach: www.mentrauiaith.cymru neu post@mentrauiaith.cymru / 01492 643 401
Cyllidir y swydd gan Lywodraeth Cymru.
Dyddiad cau: 12pm dydd Llun 25ain o Fedi 2017
Dyddiad cyfweld: Wythnos 2il o Hydref