Helpu mewn clybiau

Mae’r mentrau yn ateb y galw mewn sawl cymuned drwy redeg clybiau gwahanol drwy gyfrwng y Gymraeg – dawns, drama, stori a chanu i blant bach, cerdded, Wicipedia a mwy.

Gobaith y mentrau yw y gall y grwpiau yma barhau yn organig heb ymyrraeth bellach gan y fenter leol. Felly os oes gennych chi ddiddordeb cymryd rhan fwy blaenllaw mewn clwb – yn weinyddol neu fel arweinydd (dweud storïau a chanu i blant, arwain teithiau cerdded, cynnal wicithons), cysylltwch gyda’ch menter.

Rhai cyfrifoldebau

  • Helpu’r fenter i farchnata’r clwb
  • Helpu’r fenter i weinyddu’r clwb
  • Helpu’r fenter i arwain y clwb
Clwb Cerdded yn Sir Caerffili

Clwb Cerdded yn Sir Caerffili