Mae heddiw’n gychwyn ar wythnos gyfan o ddigwyddiadau ar-lein sydd yn rhan o Gŵyl Newydd 2020 Digidol. Fel nifer fawr o wyliau eraill eleni, nid oedd modd cynnal y digwyddiad yn fyw yn Theatr Glanyrafon fel y bwriadwyd. Ond, penderfynodd y tîm trefnu weld os oedd modd i drosglwyddo’r arlwy i lwyfan digidol.

Dyma’r drydedd Gŵyl Newydd gyda’r gyntaf yn digwyddar safle Llys Malpas yn 2018.

Eleni, gyda chymorth y llwyfan digidol AM,Cyngor Dinas Casnewydd a nifer o bartneriaid cymunedol eraill yn cynnwys y Mentrau Iaith lleol, Coleg Gwent, Dysgu Cymraeg Gwent, Prifysgol De Cymru, Eglwys Mynydd Seion a Swyddle, bydd yr ŵyl yncychwyn gyda thaith gerdded rithiol o gwmpas Caerllion nos Lun, sesiwn ganu hwyliog gyda Barry-oke nos Fawrth a fideos gan y Mentrau Iaith lleol nos Fercher ar dudalen Facebook Gŵyl Newydd. Bydd sesiwn gydag Adam yn yr Ardd ar Zoom nos Iau ac yna bydd diwrnod cyfan o weithgareddau ar ddydd Sadwrn y 26ain o Fedi ar lwyfan digidol AM. Bydd Cornel Cerdd, Cornel Clonc a Chornel Celf yn cynnwys gweithgareddau, perfformiadau a sgyrsiau amrywiol.

Dywedodd Jamie James, cyd-gadeirydd Gŵyl Newydd

“Mae’n gyffrous ein bod yn gallu cynnal yr ŵyl ar-lein eleni. Mae mor bwysig bod pobl ardal Casnewydd, Gwent a thu hwnt yn gallu dod at ei gilydd i ddathlu diwylliant yr iaith Gymraeg. Mewn cyfnod lle mae cymaint o ansicrwydd yn y byd, dyma gyfle i ni edrych ymlaen at ddyfodol disglair y Gymraeg yn ein hardal, ac rwy’ wir yn falch bod Gŵyl Newydd yn gallu ymestyn llaw o gyfeillgarwch o Went i bobl dros Gymru gyfan a thu hwnt i Gymru am y tro cyntaf drwy’r we.”

Gyda brandio newydd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl eleni gan yr artist Aur Bleddyn, mae’r tîm trefnu’n gobeithio’n fawr bydd digwyddiadau’r ŵyl yn cael eu gwylio ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt ac yn fodd i ddod â phawb at ein gilydd ar adeg mor anarferol i’n cymunedau ni.

Ewch i www.gwylnewydd.cymru am fwy o wybodaeth.